Ar yr un pryd y mae yna nifer dda o dai a fflatiau gwag yma, eiddo sydd wedi bod yn wag ers misoedd lawer. Stryd y Dyffryn ydy un o'r ardaloedd hynny gyda llawer o eiddo gwag.
Dydy Dinbych fawr gwahanol i weddill y sir. Does yna yr un pentref bron heb dŷ gwag, yn ôl yr hyn a roddwyd ar ddeall i'r Bigwn, gydag oddeutu 800 o dai gwag hir dymor yn Sir Ddinbych.
Ymysg y rhai sy'n chwilio am bob math o eiddo y mae yna lawer o'n pobl ifainc ni sy'n dymuno gadael y nyth, ond oherwydd diffyg eiddo fforddiadwy yn gorfod aros gartref ar yr aelwyd. Y mae rhai o'r bobl ifainc hyn gyda'u teuluoedd eu hunain.
"Fe hoffwn i gael lle i mi fy hun, ond gan fy mod yn sengl pa obaith sydd gen i brynu lle i fyw ar fy nghyflog i," oedd sylw un ferch ifanc.
Dywedodd y Cynghorydd Raymond Bartley, Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych, mai'r hyn sydd yn ei flino ef ydy bod yna dai gwag â llawer o waith arnyn-nhw.
"Fy marn bersonol i ydy y dylem roi tai i bobl ifainc y dref a llai i bobl o'r tu allan. Dylem edrych ar ôl y rhai a gafodd eu geni a'u magu yma, nid pobl o ranbarthau eraill. Rydym yn colli ein diwylliant a'r iaith Gymraeg wrth i rai o ardaloedd eraill symud yma," meddai.
Ymatebodd Noela Jones, Cyfarwyddwr Tai a Chymunedau Cymdeithas Tai Clwyd gan ddweud, "Y mae polisi gosod Tai Clwyd yn rhoi pwyntiau ychwanegol am gysylltiad lleol."
Ar hyn o bryd y mae ganddyn nhw 275 o gyplau, pobl sengl and theuluoedd ar eu rhestr aros, meddai.
Un sy'n brwydro'n galed er mwyn sicrhau bod y tai gwag hyn yn dod ar y farchnad fel cartrefi fforddiadwy ydy Wendy Barnsley, Swyddog Cartrefi Gwag gyda Sir Ddinbych a Chymdeithas Tai Gogledd Cymru. Dywedodd wrth y Bigwn fod yna lawer o waith adnewyddu ar rai tai gwag tra bo eraill mewn cyflwr safonol. Eglurodd fod cael tŷ gwag wrth ymyl eich cartref yn gallu gostwng gwerth eich eiddo hyd at 18 y cant, a bod perchennog eiddo o'r fath yn colli hyd at £8,350 y flwyddyn wrth adael y lle yn wag yn hytrach na'i rentu.
Byddai Peter Black, Aelod o'r Cynulliad dros y Democratiaid Rhyddfrydol yn Ne Orllewin Cymru, yn hoffi cosbi landlordiaid sy'n gadael eu heiddo yn wag am fwy na dwy flynedd drwy godi'u treth cyngor. Cred y gwelid mwy o dai ar y farchnad yn gyflym iawn wedyn.
Yn ardal Dinbych y mae Wendy Barnsley yn cydweithio gyda Chymdeithas Tai Clwyd. Eglurodd bod yna grantiau i'w cael er mwyn adnewyddu eiddo sydd mewn cyflwr gwael ar yr amod fod y gymdeithas tai wedyn yn rheoli'r tai.