BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Bigwn
Rhian SmithSwydd newydd i Rhian
Mehefin 2007
Yn Ebrill 2007 penodwyd Rhian Smith o Ffordd Eglwys Wen, Dinbych, fel aelod annibynnol o Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru.
Mae Rhian yn gyfreithwraig gyda chwmni Swayne Johnson yn Llanelwy ac yn enedigol o Rhuthun.

A hithau ond yn 25 mlwydd oed, Rhian yw'r aelod ieuengaf erioed o'r Awdurdod.

Mae Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru yn bont rhwng y gymuned leol a'r heddlu. Mae'r Awdurdod yn ymgynghori â'r cyhoedd am blismona yng ngogledd Cymru.

Mae'r Awdurdod yn cynnwys 17 Aelod, 9 ohonynt yn gynghorwyr lleol (wedi eu penodi gan Gydbwyllgor), 3 Ynad Heddwch (a benodwyd gan Bwyllgor Llysoedd Ynadon Gogledd Cymru), a 5 Aelod Annibynnol. Penodir yr aelodau annibynnol trwy broses sy'n cynnwys yr Awdurdod a'r Ysgrifennydd Cartref.

Cafodd Rhian ei phenodi'n aelod annibynnol ar y 15fed o Fawrth 2007 a chychwynodd ar y gwaith ar y 1af a Ebrill 2007. Bydd Rhian yn ymgymryd â'r gwaith law yn llaw a'i swydd fel cyfreithwraig.

Dywedodd Rhian wrth y Bigwn ei bod yn edrych ymlaen yn fawr i gychwyn o ddifri ar y gwaith ac hoffai ddiolch i'r rhai sydd wedi ei chefnogi dros y misoedd dwytha 'ma ac sydd wedi ei hysgogi i fynd am y swydd, gan gynnwys yn benodol Owain, ei theulu, ei chydweithwyr yn Swayne Johnson a'r rhai hynny a ysgrifennodd dystlythyrau i Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru ar ei rhan.

Cadeirydd yr awdurdod yw'r Cynghorydd Ian Roberts, Aelod o Awdurdod Lleol Wrecsam. Yr Is-Gadeirydd yw'r Cynghorydd Elwyn Edwards, Aelod o Awdurdod Lleol Sir Ddinbych.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy