Bydd Dewi Snelson, mab Richard a Jois Snelson, a'i bartner, Sioned Evans, yn rhedeg ym Marathon Llundain eleni ar 26 Ebrill. Mae Dewi a Sioned, sy'n hanu o Gwmfelinmynach, Sir Gaerfyrddin, wedi bod wrthi'n gweithio'n galed ar ddau ffrynt dros y misoedd diwethaf. Yn gyntaf, maen nhw'n ymarfer yn rheolaidd gan redeg nifer go fawr o filltiroedd bob dydd yn ardal eu cartref ym Mangor ac, yn ail, maen nhw wrthi'n trefnu pob math o weithgareddau er mwyn codi arian at yr elusen y byddan nhw'n rhedeg ar ei rhan yn Llundain, sef Apêl Roy Castle i Ymchwil Cancr yr Ysgyfaint. Eu nod yw codi hyd at £2000 yr un at yr elusen ardderchog hon. Dros y misoedd aeth heibio bu'r ddau, ymysg gweithgareddau eraill, yn hel arian tu allan i siop Debenhams yn Llandudno, yn llenwi bagiau'r cwsmeriaid yn Tesco, Bangor, ac yn cynnal cyngerdd John ac Alun yn y Fali, Ynys Môn. Ar 14 Chwefror, cynhaliwyd diwrnod agored yn y Fronllwyd fel rhan o'r ymgyrch. Daeth nifer dda o ffrindiau a chefnogwyr a chodwyd ychydig dros £200 at yr achos. Yn ystod y dydd, galwodd David Snowdon Jones o fwyty'r Cherry Pie am baned a sgwrs. Mae David yn adnabyddus fel un sydd yn weithgar iawn yn codi arian at achosion da. Am 27 mlynedd, bu'n gweithio'n wirfoddol dros achos MS, ond ers dros 15 mlynedd bellach mae ei sylw yn mynd at Apêl Roy Castle, dyn hynod o boblogaidd yn ei ddydd a ddaeth yn gyfaill agos i David dros y blynyddoedd. Diolch yn fawr i bawb am eu cefnogaeth i'r diwrnod agored ac yn enwedig i'r Parch. Wayne Roberts ac i Eiri Jones am eu cymorth ar y dydd.
 |