| "Adeg i ddathlu yw tymor y Nadolig ac i nifer o fobl, amser arbennig i fwynhau cwmni teulu a chyfeillion. Yr adeg yma o'r flwyddyn mae'n rhaid i ni beidio ag anghofio y rhai llai ffortunus na ni a hoffwn gymryd y cyfle yma i ddiolch i nifer o unigolion a chymdeithasau yn y dref, sydd wedi rhoi cymorth i'r rhai mewn angen i wneud y Nadolig yn adeg hapusach iddynt. Dros y blynyddoedd diweddar mae tref Dinbych wedi cymryd camau sylweddol i atgyweirio nifer o'r adeiladau hanesyddol ac eleni wedi derbyn gwobr am waith o'r math yma ac mae rhaid llongyfarch y rhai fu yn ymwneud â'r gwaith ar eu cyrhaeddiad. Y flwyddyn nesaf edrychwn ymlaen i Ddinbych unwaith eto fod yn yr amlwg pan fyddwn yn croesawu y BBC i'r dref - bydd y BBC yn lleoli eu hunain yn y dref am tua tri mis yn llywio eu rhaglenni am y gymuned. Ar ran Cyngor Tref Dinbych a hefyd fy ngwraig, Dorothy, hoffwn ddymuno i holl drigolion y dref, Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd lewyrchus ac un yn llawn hapusrwydd gyda'r gobaith y bydd i bawb fwynhau iechyd, hapusrwydd a phob llwyddiant yn ystod 2005."
 |