Rwyf wedi bod yn bostmon yma yn Ninbych ers deng mlynedd bellach ac wrth fy modd gyda'r swydd - yn cael sgwrs gydag ambell berson wrth fynd ymlaen ar fy nhaith sydd yn cychwyn am 4.30 yn y bore. Rwyf hefyd yn ddyn tân gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac ar alwad 120 awr yr wythnos. Rwyf wedi bod yn gweithio i'r Gwasanaeth hwn ers 20 mlynedd ac ym mis Hydref y llynedd cefais fy medal am wasanaeth hir ac ymddygiad o safon. Aeth Siân, fy mhartner, a minnau ynghyd â fy mab hynaf, Daniel, Gwyneth (mam Siân) a Catrin (ei chwaer) i Oriel House lle bu noson i ddathlu derbyn y fedal yma. Daeth fy rheolwr yn y swyddfa bost i glywed am y fedal ac roedd o ar dân i wybod rhagor. Doedd ganddo ddim syniad fy mod yn gweithio'r holl oriau gyda'r Gwasanaeth Tân ac yn methu credu fy mod yn gallu bod allan drwy'r nos yn ymladd tanau ac yna yn gorfod dechrau gweithio yn y Swyddfa Bost more fore wedyn! Felly, fe wnaeth y rheolwr fy enwebu yn yr adran 'Cyfraniad Neilltuol i'r Gymuned Leol' gyda'r Post Brenhinol. Cefais fy rhoi ar y rhestr fer o 500 allan o 3000 a Siân a minnau wedyn yn cael ein gwahodd i fynd i Alexandra Palace yn Llundain ar y 12fed o Fehefin. Sôn am sioc - roedd hi fel bod yn y 'Brit Awards', carped coch, paparazzi, pryd bwyd tri chwrs a digonedd o win a chwrw drwy'r dydd, a hynny am ddim! Roedd Matthew Pinsent, rhwyfwr dros Loegr, yno fel gŵr gwadd a chafwyd sgwrs diddorol iawn ganddo. Er na chyrhaeddais y pymtheg olaf, roedd y profiad yn un bythgofiadwy.
 |