| Fe wnaethpwyd cais gan Trystan Rowlands, 23 mlwydd oed, mab Annette a'r diweddar Esmor, o fferm Ty Coch, Lanrhaeadr, i fynychu cwrs i fod yn aelod llawn amser o Frigâd Dân Gogledd Cymru. Fe gafodd 700 o ymgeiswyr eu dethol i gymryd rhan yn y cwrs hyfforddi. Y cam cyntaf oedd "bleep test" yng Nghanolfan Hamdden Abergele i asesu lefel ffitrwydd yr unigolion, wedyn ymlaen i'r Rhyl am arholiad ysgrifenedig ac i'r Rhyl unwaith eto am brofion yn gysylltiedig a'r swydd. Cyfweliad Ar ôl 6 wythnos fe wahoddwyd 300 allan o'r 700 gwreiddiol i'r Rhyl am gyfweliad ac wedyn prawf meddygol yn yr Wyddgrug. Ar ôl y broses hon dim ond 14 oedd ar ôl - 12 dyn a dwy ferch. Yn anffodus, bu'n rhaid i un o'r merched dynnu'n ôl oherwydd ymrwymiadau eraill. Erbyn hyn mae Trystan a'r deuddeg arall wedi cychwyn ar gwrs preswyl yn Chorley, Swydd Gaerhirfryn. Yn ôl Trystan, dydy o erioed wedi gweithio mor galed - mae'r gwaith deirgwaith gwaeth na gêm rygbi gystadleuol. Fel aelod ffyddlon o Glwb Rygbi Dinbych, fe ddylai wybod! Dysgu sgiliau newydd Mae'n rhaid iddo edrych ar ei ôl ei hun a dysgu sgiliau newydd, ac, yn ôl ei fam, mae wedi dod yn dipyn o giamstar efo'r haearn smwddio! Mae pwyslais y cwrs ar ddisgyblaeth ac ar weithio fel tîm, yn union fel yn y Lluoedd Arfog. Mae'r 'stafelloedd yn cael eu harchwilio bob dydd, ac os oes rhywbeth yn flêr, neu fod rhywun yn hwyr, maen nhw'n cael eu cosbi drwy orfod ysgrifennu traethawd. Cosb am fod yn hwyr Un diwrnod roedd tri yn hwyr i'r orymdaith ddyddiol (ond nid Trystan!) ac, o ganlyniad, roedd rhaid i bawb ysgrifennu traethawd. Bu'n rhaid i un o'r trueiniaid gwblhau wyth traethawd - a hynny cyn diwedd yr ail wythnos! Dywed y Gwasanaeth Tân mae hyn yn helpu hybu cydweithrediad! Mae asesiad bob dydd, ac arholiad ysgrifenedig bob dydd Gwener. Erbyn hyn mae Trystan wedi cwblhau ei ail wythnos gyda dim ond deg i fynd!
 |