BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Bigwn
Coctel Ciwba Gwyllt!
Hydref 2005
Unwaith eto mae Cymru Cuba yn rhoi Dinbych a Gogledd Cymru ar fap cerddoriaeth ryngwladol.
Bydd un o fandiau salsa gorau Cuba, 'Asere', yn ymddangos yn Neuadd y Dref Dinbych, dydd Sadwrn, Tachwedd 5ed.

Mae'r band yn cynnwys saith o gerddorion ifanc deinamig ac mae eu hegni a'u steil wedi creu argraff ffafriol iawn ar gefnogwyr salsa trwy Brydain ac Ewrop.

Mae enw'r band yn deillio o gyfarchiad a ddefnyddir gan y sect Afro-Ciwbanaidd, Abakua, sy'n golygu cyfaill, ac a ddefnyddir ar dafod leferydd yng Nghiwba.

Mae 'Asere' yn dilyn ôl traed meistri'r Son (neu 'roots salsa') a disgrifir hwy fel band newydd mwyaf cyffrous Ciwba.

Mae dylanwad cerddoriaeth Clwb Gymdeithasol Buena Vista yn gryf arnynt ac maent yn cyfuno sain teimladwy Son traddodiadol gyda churiad salsa trefol Havana.

Mae'r cyfuniad yma wedi saethu'r band i flaen cerddoriaeth poblogaidd Ciwba ac ar y llwyfan rhyngwladol.

Fel arfer, bydd unrhyw elw o noson Salsa Cymru Cuba yn mynd tuag at brosiectau meddygol ac addysgol yng Nghiwba.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy