Mae'r brosiect yma'n cyflwyno gwaith newydd ac awdur newydd, Colin Thomas o Fryste, sy'n gyfarwyddwr teledu profiadol. Ond dyma'i sioe lwyfan gyntaf ac mae'n hollol addas mai yn Ninbych y mae'r premiere gan mai pwnc y ddrama ydy H. M. Stanley, neu John Rowlands - enw gwreiddiol Stanley! Dechreuodd Colin Thomas a Medwen Roberts, sy'n byw tu allan i Ruthun, weithio efo'i gilydd flynyddoedd yn ôl ar raglenni hanes ar gyfer y teledu, ac mae nhw wedi cydweithio'n rheolaidd ers hynny. Mae'r ddau yn credu'n gryf fod hanes yn bwysig a nad oes 'un' ffordd o edrych ar hanes. Gobaith Medwen Roberts, sy'n cynhyrchu'r brosiect, ydy y bydd yn tynnu sylw at stori H. M. Stanley, sy'n ffigwr pwysig yn lleol ac yn ryngwladol. Mae'n waith anturus sy'n cyflwyno perfformiadau ar lwyfan, efo ffilm sy wedi'i saethu'n lleol - efo actorion lleol - proffesiynol ac amatur. Yn y cynhyrchiad cawn stori drist magwraeth Stanley a'i atgofion am y gweithdy yn Llanelwy a'i berthynas boenus efo'i fam. Bydd hefyd yn rhoi braslun o'i fywyd wedi gadael Cymru. Yn ychwanegol cyflwynir cymeriadau hanesyddol eraill, fel Edmund Morel, oedd yn byw ym Mhnarlag. Y bwriad ydy dangos sut mae digwyddiadau o'r gorffennol yn adleisio yn y presennol. A bydd y ddadl am etifeddiaeth Stanley yn dod yn fyw yn y cynhyrchiad. Cynhyrchiad Theatr Twm o'r Nant ydy hwn, efo'r ymarferion i gyd yn digwydd yn y theatr, a'r adnoddau technegol yn cael eu rheoli gan staff amryddawn y theatr. Fe fydd 'Mr Stanley's Magic Lantern and the Heart of Darkness' yn Theatr Twm o'r Nant ar 21 & 22 Mai am 7.30yh
 |