BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Bigwn
Hen greiriauManion
Tips wrth chwilio am fargen mewn arwerthiant hen bethau, a sut i ymddangos yn wybodus yn y grefft...

Chefais i 'rioed lawer o lwc wrth chwilio am fargen. Mi fydda i yn mynd o bryd i'w gilydd i'r arwerthiannau 'ma ac wrth fy modd yn edrych ar eraill yn ei chynnig hi.

Pe bawn i'n rhyw fath o arbenigwr, mi fydda gen i rhyw fath o syniad hwyrach am be i edrych wrth geisio cloriannu gwerth. Yr hyn ddywedwyd wrtha i gan hen law arni, yw peidio â dangos gormod o ddiddordeb mewn dim oedd yn mynd a 'mryd. "Mae sbec sydyn dan-dinaidd ffwrdd â hi yn ddigon", medda fo.

Ac fe ddyla fo wybod achos mae ganddo fo lond garej o drysorau sy'n dda i ddim ac yn amhosib cael gwared ohonyn nhw. Mae gwrando ar yr hogiau 'ma wrthi hi'n trin a thrafod gwerth neu ddiffyg gwerth rhywbeth yn addysg.

Ac os sylwch chi, mae nhw bob amser yn siarad drwy ochr 'i cegau. Beth ydi pwrpas neu arwyddocâd hynny, Duw â ŵyr ond mae hi'n rhan annatod o'r ddefod. Ffordd gyfrin o drosglwyddo gwybodaeth siwr gen i ond mae'n golygu blynyddoedd o ymarfer, nid peth hawdd ydi cynnal 'sgwrs gall drwy ochr eich wyneb.

Chewch chi neb byth wedi cael ei wneud, na chwaith heb gael bargen a hanner hefo rhywbeth neu'i gilydd ac mae sodro bargen yn hanfodol i lwyddiant y diwrnod. 'Does fyw ei throi hi tua thre heb gael bargen. Felly i osgoi'r cyflwr hwnnw o fethiant llwyr mae'n rhaid argyhoeddi eich hun eich bod yn fwy o lwynog na'r arwerthwr. Tipyn o gamp - welsoch chi'r un o rheini yn curo ar ddrws unrhyw wyrcws yn naddo!

Cyfrinach arall yn ôl y gwybodusion ydi edrych yn wybodus a rhoi'r argraff eich bod chi'n deall y dalltings. Mae 'na lai o siawns y cewch chi'ch blingo wedyn. Mae 'na ffyrdd o ofyn heb swnio'n dwp a gollwng y gath o'r cwd. Mae 'na eiriau a jargon y dylid eu dysgu ar gof i'w defnyddio pan mae angen creu mwy o argraff ac fel y crybwyllwyd eisoes mae hi'n hanfodol medden nhw, ymarfer y dechneg o fwrw golwg heb dynnu sylw.

Mae bod ar drywydd bargen fel mynd i'r gad - mae hi'n rhyfel, y chi a nhw - neb arall, ac mae'r arwerthwr bob amser ar eu hochr nhw'. Dyna un ochr i'r geiniog, fel arall gallwch bwnio a phrocio faint a fynnoch ac ymgolli ym myd ffantasi yr arbenigwr sy'n gwybod dim.

Gallwch gamu'n ôl i edrych o bell, nesau i graffu'n fanylach ac mae sbectol wedi ei thynnu reit i flaen y trwyn yn help, anwylo'n ddeallus â'r dwylo, a rhyw grafu gwddw yn awdurdodol a pho fwya'r gynulleidfa, mwya'n byd yw'r boddhad.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy