Fel rhan o gynllun adfywio a harddu'r dre', mae'r maes parcio sydd gyferbyn â Chapel Pendref yn debycach i faes y gad nag i ddim arall y dyddiau yma. Ond fel mae'r waliau'n codi a'r llwybrau'n ymddangos, gallwch weld pethau'n siapio. Ydi'r ail wampio wedi bod werth y gost, y llanast a'r anghyfleustra? Amser yn unig a ddengys.
Rhan o'r un ymdrech i sbriwsio'r dre' yw'r gwaith sydd newydd ei gwblhau ar Bronyffynnon, a gan fod yr ymateb wedi bod mor gymysg, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus i drafod y gwaith hwnnw, yng Nghanolfan laith Clwyd, ddechrau Mai.
Aeth rhyw ddwsin yno i fynegi eu barn. Cafwyd cyflwyniad graenus iawn gan Nathan Blanchard, Rheolwr y Prosiect yn y dre' ar ran y Cyngor Sir. Roedd Mr. Alun Jones, Partneriaeth Wynn Rogers, a oedd yno ar ran ei gleientiaid sef meddygon y bartneriaeth, yno i ateb cwestiynau hefyd, a rhyngddyn nhw cafwyd crynodeb manwl o'r gwaith a wnaed.
Anodd plesio pawb
Mynegodd rhai bryder ynghylch yr egwyddor o rendro, a'r lliw a ddewiswyd tra roedd eraill yn uchel iawn eu canmoliaeth. Anodd ydi plesio pawb!
Dyma a ddywed yr hanesydd, Mr Bobi Owen. Bu Thomas Williams a Mary Williams ei wraig yn byw yno o 1799 ymlaen ac yno y ganed William Willliams 1801-1869 (Caledfryn). Gwehydd oedd Thomas Williams a dichon ei fod yn dilyn yr alwedigaeth honno yn yr adeilad.
Tybed a oedd yn berchen ar y tŷ ai peidio? O ystyried ei faint, mae'n rhaid ei fod yn wr byr gefnog. Yn bendant roedd cysylltiad rhwng y tanerdy (cyn codi'r Institute yn 1915) a Bronyffynnon.
Mr. Parry (cysylltiad â theulu Llewenni) oedd perchennog y tanerdy yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a chredir ei fod yn byw ym Mronyffynnon.
Felly hefyd deulu Lloyd Jones, y Cwriwr, ond uwchben siop Mr. Hughes yr Optegydd y cofia weddw Mr. Lloyd Jones yn byw.
Cysylltu Bronyffynnon â Neuadd Panton
Posibiliad diddorol yw cysylltu Bronyffynnon â Neuadd Panton. Yn ôl John Williams (Glanmor) 'roedd y Plas, sef cartref John Panton, cofiadur Dinbych yn ystod teyrnasiad Elisabeth laf, wedi diflannu ers canrifoedd lawer.
Hyd y gŵyr Bobi, doedd gan Glanmor ddim tystiolaeth bendant i ddweud hyn (mwy na sydd ganddo fo dystiolaeth bendant i'r gwrthwyneb).
Tybed, (a thybed go fawr yw hefyd) gan mai Bronyffynnon yw'r adeilad amlycaf yn yr ardal, a'i fod, yn ei bensaernïaeth, yn dyddio o oes Elisabeth, mai dyma'r Plas Panton hirgolledig. Panton Hall oedd yr enw swyddogol ar y tai oedd gyferbyn â'r launderette y tu ôl i Bronyffynnon.