Dyma rai o'r eitemau dwi wedi gorfod eu gwisgo yn rhinwedd fy swydd dros y flwyddyn diwethaf, meddai Lois Cernyw.
Pan gytunais i fod yn Swyddog Datblygu i'r Urdd dros flwyddyn yn ôl erbyn hyn breuddwydiais i ddim y buaswn yn cael profi cymaint o weithgareddau amrywiol a diddorol. Yn wir mae wedi bod yn bleser cael gweithio i'r Urdd dros y deuddeg mis diwethaf!
Oeddech chi'n gwybod bod yr Urdd yn trefnu dros 50 o weithgareddau yn Sir Ddinbych heb gynnwys yr Adrannau, Aelwydydd a chlybiau wythnosol? Oeddech chi'n gwybod bod dros 2,300 o blant a phobl ifanc Sir Ddinbych yn aelod o'r Urdd? Oeddech chi'n gwybod bod gan yr Urdd Ysgol Roc a Theatr Ieuenctid newydd yn Sir Ddinbych?
Nid yn unig hyn, oeddech chi'n ymwybodol bod byddin o wirfoddolwyr yn weithredol iawn yn Sir Ddinbych a ni fuasai modd i ni gyflawni hanner y gwaith heb eu help a'u cymorth nhw?
Dwi'n cael fy syfrdanu'n feunyddiol gan frwdfrydedd a dyfalbarhad yr holl wirfoddolwyr sy'n cefnogi a hybu gweithgareddau amrywiol yr Urdd. Heb waith caled y tîm o wirfoddolwyr ni fuasai modd i mi gyflawni fy ngwaith.
Dros y flwyddyn diwethaf dwi di bod ynghanol y mwd a'r baw, y gwynt a'r glaw, yr oerni a...wel dim gymaint y cynhesrwydd, ar lyn a mewn yn y mor, ben mynydd ac ar draeth gyda'r gweithgareddau gwahanol.
O'r swyddfa yn Ninbych rydym wedi bod yn gyfrifol am drefnu cystadlaethau chwaraeon, eisteddfodau, teithiau amrywiol, adrannau, clybiau wythnosol, gigiau, theatrau ieuenctid, ysgol roc, ysgolion haf a llu o weithgareddau eraill a choeliwch neu beidio dwi dal mewn un darn!
Mae pob un gweithgaredd yn arbennig mewn un ffordd neu'i gilydd ond mae rhai yn gadael argraff arbennig iawn arnaf. Ers mis Medi diwethaf rydym wedi bod yn trefnu gweithdai dawns ar gyfer plant a phobl ifanc gydag anabledd ag anghenion ychwanegol yn Ysgol Plas Brondyffryn a Coleg Pengwern.
Gweithdai oedd rhain oedd yn cael eu cynnal drwy'r iaith Gymraeg ac yn arf i godi hunan hyder, datblygu sgiliau ac yn ffordd arbennig ac unigryw i gymdeithasu. Ddechrau mis Rhagfyr roeddwn wedi trefnu bod y mynychwyr yn cael y cyfle i ddangos i ffrindiau, teulu ac athrawon yr hyn yr oeddynt wedi bod yn wneud dros y misoedd blaenorol yn Neuadd y Dref Dinbych.
Braint ac anrhydedd oedd cael cydweithio gyda'r bobl ifanc arbennig yma, ac mae'n bleser cael dweud bod y gweithdai wedi cyflawni ei fwriad sef codi hunan hyder a datblygu sgiliau, yn wir mae amryw i Gethin Jones ifanc wedi dod i'r fei.
Gobeithio'n fawr y cawn dros y flwyddyn nesaf gyfle i ddatblygu prosiectau newydd a rhai blaenorol ymhellach.
Manteisiaf ar y cyfle yma i ddiolch i bawb sydd wedi ymwneud a'r Urdd dros y flwyddyn diwethaf ac edrychaf ymlaen i gael cydweithio gyda chi yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. Rydych chi wedi gwneud y flwyddyn gyntaf fel Swyddog Datblygu i'r Urdd yn un arbennig a byth gofiadwy.
Os am ragor o wybodaeth am yr Urdd cysylltwch a fi ar 01745 818604 neu drwy e-bost ar lois@urdd.org. Edrychaf ymlaen i glywed gennych.
Dyddiadau Eisteddfodau Cylch Dinbych :
Eisteddfod Cylch Dinbych (Cynradd ac Uwchradd) - 23 Chwefror
Eisteddfod Ddawns Cylch Dinbych - 27 Chwefror
Celf a Chrefft Cylch Dinbych - 3 Mawrth
Celf a Chrefft Sir Ddinbych - 4 Mawrth
Eisteddfod Sir Cynradd - 8 Mawrth
Eisteddfod Adrannau, Uwch Adrannau ac Aelwydydd - 12 Mawrth
Eisteddfod Sir Ddawns - 14 Mawrth
Eisteddfod Sir Uwchradd - 15 Mawrth.