BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Bigwn
Un o'r bandiau ym Mrwydr y BandiauBrwydr y Bandiau
Roedd Neuadd y Dref, Dinbych yn atseinio i sŵn bandiau pan gynhaliwyd Brwydr y Bandiau fis diwethaf.

Bu Neuadd y Dref, Dinbych yn gartref i nifer o gyngherddau roc dros y blynyddoedd, ac fe gynhaliwyd sawl eisteddfod bop yno yn y saithdegau.

Roedd yr adeilad yn atseinio unwaith eto i sŵn bandiau pan gynhaliwyd Brwydr y Bandiau fis diwethaf.

Trefnwyd y noson gan Menter laith Dinbych/Conwy ar y cyd â'r Urdd, a rhaid diolch i staff y ddau fudiad am eu gwaith yn trefnu'r noson.

'Maharishi" -oedd y band gwadd, ac aelodau y band hwnnw oedd yn beirniadu'r gystadleuaeth rhwng y bandiau ifanc. Lisa Gwilym o Henllan, un o'n cyflwynwyr ifanc disgleiriaf yn y cyfryngau Cymraeg oedd yn cyflwyno ar y noson.

Daeth nifer o fandiau yno i gystadlu gyda'i cefnogwyr - ac ambell hen rocar o riant oedd yn cofio'r cyngherddau tebyg a gynhaliwyd yno yn y gorffennol pell!

A'r enillwyr oedd ...
Daeth cynulleidfa o dros 100 i gefnogi'r bandiau ac fe gafodd pawb y cyfle i bleidleisio am eu hoff fand, ond Maharishi oedd â'r bleidlais olaf.

Misticuffs Ysgol Brynhyfryd oedd y buddugwyr gyda Drws Cefn, band o Ysgol Glan Clwyd yn ail agos iawn. Derbyniodd yr enillwyr docyn anrheg gwerth £50 ar gyfer y Rhyl Sound Center a'r cyfle i chwarae gyda Maharishi mewn gig yng Nghlwb Rygbi Rhuthun y noson ganlynol.

Noson gwerth chweil - ac mae edrych ymlaen yn arw at y nesaf


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy