Eglurodd y cadeirydd bwrpas y cyfarfod, sef i drafod rhan y Cyngor yn yr ymgais i brynu eitemau o gasgliad y diweddar Syr Henry Morton Stanley mewn arwerthiant yn Christie's, Llundain. Anerchodd Mr. Kevin Mathias y cyfarfod ac eglurodd yr hyn sydd wedi ei wneud gan y Cyngor Sir hyd yn hyn.
Trafod gyda'r Loteri
Roedd popeth wedi digwydd ar frys. Cysylltwyd â'r adran adfywiad economaidd a chafwyd trafodaeth ffrwythlon gyda Chronfa Treftadaeth y Loteri. Roedd y gronfa yn gallu ariannu 75% o'r pecyn oedd wedi ei baratoi. Roedd rhaid cael 25% o ffynhonnell arall.
Os oedd y Cyngor Tref yn cytuno roedd modd gwneud cais i Brif Gronfa Amcan 1.
Casglwyd rhestr o eitemau oedd yn rhaid cynnig amdanyn nhw. Roedd yn rhaid cynnig am nifer o eitemau o ddiddordeb lleol yn ogystal ag eitemau yn gysylltiedig â bywyd H.M. Stanley.
Nodwyd 27 o eitemau gyda'r pris gwerthiant wedi ei amcangyfrif o gwmpas £57,500. Byddai costau'r arwerthwyr yn £11,000, costau trafnidiaeth tua £500 gyda £20,000 yn ychwanegol ar gyfer cadw'r eitemau.
Roedd gobaith o gael arddangosfa barhaol. Byddai cost y cyfan yn £89,000.
Datblygu partneriaeth
Pwysleisiodd Mr. Gareth Evans yn ei anerchiad y pwysigrwydd o ddatblygu partneriaeth gyda Chyngor y Dref, gan fod dull partneriaeth yn llawer cryfach ar gyfer ceisiadau ariannu.
Byddai'r bartneriaeth yn golygu fod y Cyngor Sir yn gwneud cais i Gronfa Treftadaeth y Loteri am 75% a'r Cyngor Tref yn gwneud cais i'r brif gronfa am 25%.
Byddai'r Cyngor Sir yn cynnal unrhyw gostau yn y dyfodol yn ymwneud ag edrych â gofalu am y casgliad.
Y cam nesaf wedi'r arwerthiant fyddai sefydlu grwp llywio yn cynnwys aelodau o'r Cyngor Sir, Cyngor y Dref a grwpiau eraill sydd â diddordeb yn y cynllun. Byddai'r grwp hwn wedyn yn penderfynu ar leoliad, dehongliad, a ffynonellau addysg ac ati.
Roedd rhaid bod yn wyliadwrus oherwydd byddai arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio a rhaid gwneud cynnig am y costau i gyd.
Cafwyd trafodaeth pan ymatebodd Mr. Mathias a Mr. Evans i sylwadau a chwestiynau oddi wrth y cynghorwyr.
Cais i gronfa Amcan 1
Penderfynwyd (yn unfrydol) fod Cyngor y Dref yn cefnogi ffurfio partneriaeth gyda'r Cyngor Sir a bod cais yn cael ei wneud i Brif Gronfa Amcan 1.
Penderfynwyd hefyd fod y Maer, Dirprwy Faer a Chlerc y Dref yn cael eu hawdurdodi i arwyddo'r ffurflen gais am grant ar ran Cyngor y Dref. Penderfynwyd hefyd fod llythyr o gefnogaeth yn cael ei anfon i Gronfa Treftadaeth y Loteri.
Mynegodd y cadeirydd werthfawrogiad y Cyngor i'r Cynghorydd Kensler am yr holl waith caled yr oedd wedi ei wneud i roi sylw i'r mater.
Ar 24 Medi, llwyddwyd i brynu 5 eitem yn yr arwerthiant yn Christies gan gynnwys lluniau negatif ar wydr o Stanley, a Beibl Cymraeg a gafodd yn anrheg briodas oddi wrth Mr. a Mrs. Thomas Gee.