| Plant amddifad oedd aelodau'r côr, wedi colli rhiant neu rieni i'r clefyd AIDS neu o ganlyniad i ryfel. Fe wnaeth y cyngerdd gymaint o argraff ar un o'r gynulleidfa, Brian Thomas, fel iddo benderfynu yn y fan a'r lle ei fod am gefnogi Elusen Watoto, sef elusen Gristnogol sy'n rhedeg 'pentref' sy'n cynnig lloches i'r plant mwyaf difreintiedig ac anghenus. Nod yr elusen yw gosod y plant mewn awyrgylch "deuluol" yn hytrach na mewn cartref neu sefydliad anferth ac amhersonol.
Gan fod Brian yn Lywydd Clwb Rotari Dinbych yn ystod y flwyddyn honno, sicrhaodd gytundeb Pwyllgor Rhyngwladol ei Glwb i ariannu adeiladu tŷ yn Watoto i wyth plentyn a chyflogi "Mam" i ofalu am y plant. Cost y fenter yw £16,000. Mae'r Rotari ac Ysgol y Parc eisoes wedi cydweithio i gefnogi gwahanol brosiectau yn Affrica - sicrhau cyflenwad dŵr i bentref, dodrefnu a chyfarparu ysgol a darparu llyfrau a storfa ddŵr i ysgol arall. Erbyn hyn mae bron i £11,000 wedi ei gasglu ac mae sawl i gweithgaredd wedi ei drefnu yn ystod y misoedd nesaf i geisio codi'r £5,000 ychwanegol sydd ei angen.
Mae'r holl arian wedi ei gasglu yn nhref Dinbych a'r cyffiniau, a'r bwriad yw casglu'r arian i gyd o fewn yr ardal a rhoi enw sy'n gysylltiedig a thref Dinbych i'r tŷ newydd. Mae'n bosib i unigolion neu grwpiau brynu bricsen neu frics am £5 yr un i helpu adeiladu'r tŷ, a bydd y sawl sy'n gwneud hyn yn derbyn tystysgrif unigryw i gydnabod y rhodd. Mae angen gwerthu 3,200 0 frics! Mae Brian hefyd yn fodlon ymweld â chymdeithasau lleol i siarad am y fenter. Mae Brian wedi sicrhau fod pob ceiniog yn mynd i'r elusen
gan fod dim costau gweinyddol.
Mae'n ddyledus i gwmnïau lleol fel Ceir Clwydian, White heads Blind Solutions a The Energy Co UK Ltd am roi canran o'u helw dros gyfnod o
flwyddyn i'r elusen, i Lock Stock am gynllunio ac argraffu'r deunydd cyhoeddusrwydd ac i Wasg Helygain am argraffu'r tystysgrifau.
 |