"'Y nghlennig i, 'y nghlennig i a blwyddyn newydd dda i chi". Pryd glywsoch chi'r geiriau yna ddiwetha'? Chlywis i mohonyn nhw ers blynyddoedd, mwya' bechod. Un arall o'n harferion ni wedi mynd, yn yr ardal yma beth bynnag, ac unwaith yr â nhw, anodd drybeilig yw eu hatgyfodi. Roedd o'n achlysur yr edrychem ymlaen ato yn arw. Hanner diwrnod prysur o hel - yn ffrwythau, taffi triog, cyflath, ac arian os byddem yn lwcus. Yn amlach na pheidio yr un fyddai'r daith bob blwyddyn. Roeddem yn adnabod ein pobol, yn gwybod ble i fynd a syniad go lew beth i'w ddisgwyl ar bob rhiniog.
Gan ein bod yn byw rhyw filltir o'r pentre, ei hanelu hi am y ffermydd o gwmpas a wnaem ni yn hytrach na sathru cyrn criwiau'r "stryd". Roedd 'na 'hogia mawr' yn y fan honno a doedd fyw inni dresmasu. Mi fuon ni'n ddigon rhyfygus i wneud hynny un bore calan gwlyb, ond dyma'r unig dro. Roedd cael ein bygwth gan Pitar Glan Llyn a Hywal Goch yn ddigon i dorri calon y dewraf. Doedd 'chydig o afalau neu daffi ddim yn werth stid.
Mantais fawr hel clennig yn 'y stryd' oedd bod y drysau yn agos at ei gilydd, ond clywais ddweud hefyd fod na lawer iawn o bobol fyddar yn llechu y tu ôl iddyn nhw. Fe wyddech yn burion ar ôl curo deirgwaith neu bedair a chodi lefel y llais yr un pryd, mai ofer fyddai gwastraffu mwy o amser, yn enwedig a hanner dydd yn carlamu tuag atoch.
Yn sicr roedd yn rhaid rhoi trefn ar y bore a chynllunio'r helfa ymlaen llaw. Y llwybr sytha rhwng dau dŷ oedd hi bob gafael. Doedd 'na fawr o barch at glawdd, gwrych, ffos, ffens na'r un rhwystr arall hyd y cofiaf. Y nod, a'r unig nod i ni, oedd rhoi cymaint o bwysau yn y sach fach goch ag oedd yn bosib mewn cyn lleied o amser a phosib. Gwaith caled a sawl hyd cae rhwng dau ddrws.
Caem groeso ym mhobman a neb byddar o gychwyn y daith hyd at ei therfyn. Curo, llafarganu ein pwt ac aros am y sŵn traed a chlec y glicied. Yna, bron yn ddieithriad y geiriau, "Arhoswch chi am funud i mi gael gweld os oes gen i rwbeth bach ichi". A ninnau yn gwybod o'r gorau fod popeth yn barod ers oriau yn fwndeli taclus ar sawl bwrdd cegin.
Y gamp oedd peidio ymdroi i siarad ond ni fyddai Musys Ifas Bryn Berthen yn ein dal bob tro drwy fynnu ein bod yn canu carol neu ddwy er bod y 'Dolig wedi hen fynd. Fydden ni byth wedi breuddwydio gwrthod, roedd Musys Ifas yn ffeind drwy'r flwyddyn ac yn ffrindiau hefo pawb call.
Rhyw led cae o Bryn Berthen roedd Corn Bicyn, a rhywbryd yn ystod yr haf, er siom i bawb, symudodd y teulu i fyw i'r de a'r si oedd fod "pobol ddiarth" wedi prynu'r lle. Pobol, yn ôl 'nhad, oedd ddim cweit yr un fath a'r gweddill ohonom. Buan iawn y deuthum i sylweddoli mor wahanol yr oedden nhw mewn gwirionedd.
Ond "pobol ddiarth" neu beidio, galw wnaethon ni a churo a bloeddio'n neges a'r un agerdd ag a wnaethon ni drwy'r bore. Pan agorodd y wraig y drws a'n gweld ni'n sefyll fel delwau o' i blaen, yr unig beth ddywedodd hi, a hynny'n ddigon ffwrbwt oedd, "what do you want?" Sôn am dynnu gwynt o hwyliau rhywun. Sut ar wyneb daear oedd disgwyl inni egluro arwyddocâd dydd Calan i'r dieithriaid yma mewn iaith nad oedd gen i grap yn y byd arni. Afraid dweud na chawsom fawr o lwc yng Nghorn Bicyn y diwrnod hwnnw.
Yn Rhiw Goch, cartref John a Nansi Preis y deuai'r bore i ben. Roedd Musys Preis yn rhyw lun o berthyn i mam a'n clennig ni yn Rhiw Goch fyddai croeso mawr a chinio mwy a swllt yr un i'w sodro yn y cadw-mi-gei ar gyfer (yn ôl Mustyr Preis) diwrnod gwlyb.
Bechod na fyddai rhywun wedi meddwl am hel calennig ar ddiwrnod cynta bob mis achos calan oedd y diwrnodau hynny hefyd, ond yn nghreigl amser aethant yn angof ac ond un, heblaw calan Ionawr, sy wedi dal ei dir - Calan Mai. Meddyliwch mewn difri' hel calennig bob mis. Pam lai te? Pa well ffordd o atgyfodi hen arferiad.
Cyfraniad i bapur bro Y Bigwn yn Ionawr 2007.