Nid yn unig mae'r Prif Weithredwr John Glyn Jones yn trosglwyddo'r awenau i Brif Weithredwr newydd, Alwyn Llwyd, ond mae'r tîm hefyd yn dathlu'r ffaith eu bod wedi ennill safon bellach 'Proffil' yn eu tystysgrif Buddsoddwyr Mewn Pobl. Wedi bron i 25 mlynedd wrth y llyw, bydd John Glyn Jones o Ddinbych, yn cau pen y mwdwl ar ei yrfa yng Nghymdeithas Tai Clwyd, sydd â swyddfeydd yn Ninbych ac yn Y Bala.
Ef oedd y swyddog cyntaf cyflogedig gyda'r Gymdeithas nôl yn 1982, wedi ei sefydlu rai blynyddoedd ynghynt, mewn ymateb i'r sefyllfa tai fforddiadwy yn yr ardal.
Ac yntau'n frodor o'r ardal, wedi ei fagu ar fferm gyfagos, dywed ei bod hi wedi bod yn fraint gweithio yn ei fro enedigol gyda thîm o staff ymroddedig.
Wrth ei holi am ei brofiadau mwyaf cofiadwy yn y swydd atebodd gyda gwên ar ei wyneb: "Gyrru am yn ôl, yn ddamweiniol, i mewn i gar Swyddog Tai Cymru, gan ei daro i lawr dibyn bach yn syth i mewn i wal, un noson yn ein maes parcio.
"Y peth gwaethaf oedd bod y maes parcio yn wag! Mi gostiodd y cerbyd torri lawr yn ddrud i mi. Dwi'n dal i ddweud mai bai Alan ei hun oedd hi am beidio codi'r handbrêc yn iawn!" meddai'n gellweirus.
Gyda thîm o 70 o staff a 1800 o dai, mae'r Gymdeithas Elusennol wedi datblygu llawer ers adeiladu'r tai cyntaf ar gyfer pobl leol yn Llansannan, ym 1979.
Mae y eu hamcanion yn parhau fodd bynnag, sef darparu tai i bobl leol mewn ardaloedd gwledig.
"Un o'r pethau rwyf wedi ei mwynhau fwyaf wrth weithio i Gymdeithas Tai Clwyd, ydi gweld cyflwyno goriadau tŷ^ cyfforddus fforddiadwy i . deulu, gan newid eu bywyd er gwell," eglurodd John Glyn.
Ategodd: "Mae hi wedi bod yn bleser ac yn fraint cael cydweithio â chriw o bobl mor gyfeillgar. Hebddynt, fydde'r Gymdeithas ddim hanner y sefydliad ydi hi.
Dwi'n dymuno'r. gorau i'r criw, ac yn edrych ymlaen at fy ymddeoliad. Mae'n debyg mai garddio, golffio, barddoni a threulio llawer mwy o amser gyda'm hwyresau bach fydd yn mynd â' m bryd, yn ogystal â thaclo'r rhestr faith sydd gan fy annwyl wraig wedi ei pharatoi ar fy nghyfer!"
Cyn i John Glyn adael ei swydd, bydd yn croesawu'r Prif Weithredwr newydd i dreulio amser yn ei gwmni, wrth ei gyflwyno at waith y Gymdeithas.
Mae bod nôl gartref yng Nghymru, yn brofiad go newydd i Alwyn Llwyd, 54, sydd wedi ymgartrefu yn Nhregarth, Bethesda ac yntau wedi treulio'r 26 mlynedd diwethaf yn gweithio dramor.