| Baneri, bunting, balŵns, a ffedogau i gyd yn oren, ac wrth gwrs pwy all anghofio ymweliad Glyn Wise ag Ysgol Twm o'r Nant, y Bore Goffi yn Neuadd y Dref a'r gystadleuaeth Ffenestr Siop i'r busnesau?
Wel, mae Menter laith Sir Ddinbych wedi llwyddo i gael yr ymgyrch arbennig hwn yn ôl i'r dref eto eleni. Bydd yr wythnos yn cychwyn ddydd Llun Medi 24ain a' n bwriad eleni yw gwella'r ymgyrch drwy gael mwy ohonoch ynghlwm neu yn gysylltiedig a'r wythnos. Felly, beth yn union yw pwrpas yr ymgyrch? Ydych chi erioed wedi mynd mewn i siop a gofyn am rywbeth yn Saesneg, neu wedi dechrau siarad â rhywun yn Saesneg ar y stryd, neu ar y ffôn ac wedyn wedi deall bod y ddau ohonoch yn gallu siarad Cymraeg? Wel, prif bwrpas yr ymgyrch eleni yw annog defnyddwyr a darparwyr yr Iaith Gymraeg i ddefnyddio'r Gymraeg yn Gyntaf yn eu bywydau bob dydd ac yn enwedig y sector breifat megis siopau, a busnesau o bob math. Un o uchafbwyntiau'r wythnos sydd gennym ar eich cyfer eleni yw darllediad byw o raglen radio Dylan a Meinir o Gaffi'r Pantri. Bydd Dylan a Meinir yma ar bnawn ddvdd lau Medi 27ain. felly galwch i mewn am baned ac efallai sgwrs ar Radio Cymru! Hefyd bydd BWS OREN y BBC a Bwrdd yr laith Gymraeg sef yr HYSBYS yn ymweld a ni ar ddydd Llun Medi 24ain. Bydd mwy o wybodaeth ar gael yn agosach at y dyddiad.
Mae dau fis nes bydd yr ymgyrch ac rydym ar hyn o bryd yn edrych am wirfoddolwyr i'n cynorthwyo yn ystod yr wythnos. Oes gennych chi ychydig o amser ar eich dwylo? Neu, oes gennych chi syniadau ar sut y gallwn gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y sefyllfaoedd sydd wedi eu crybwyll uchod? Os oes, neu os gallwch ein cynorthwyo mewn unrhyw ffordd, neu yn gwybod am rywun a fyddai a diddordeb, cysylltwch â ni yma yn y Fenter ar 01745 812822 neu e-bostiwch: dylanjones@menteriaithdin bych.co.uk neu galwch mewn i'n swyddfa yng Nghanolfan laith Clwyd. Hefyd, ewch i'n safle gwe ar www.mentrauiaith-gogledd.com.
 |