| Ar ddydd Sadwrn 5ed o Orffennaf trafaeliodd nifer dda o aelodau a chyfeillion y Gymdeithas i Fethesda a Dyffryn Ogwen, yn bennaf i synhwyro ac adnabod cynefin Caradog Pritchard, un o'n llenorion pennaf. 'Roeddem yn hynod ffodus i gael J. Elwyn Hughes i'n tywys ar y daith - y gŵr a wnaeth cymaint o argraff arnom pan yn darlithio yn un o gyfarfodydd y Gymdeithas y llynedd - ar yr union bwnc sef Caradog Pritchard a'i fro. Treuliodd J. Elwyn Hughes ei fywyd a'i yrfa yn yr ardal a roedd yn amlwg ddigon ei fod yn adnabod Bethesda a Dyffryn Ogwen yn llwyr. Cawsom y cyfle i weld y tŷ lle ganwyd a magwyd Caradog Pritchard, yr ysgolion a fynychai, yr eglwys lle bu yn aelod, a'r man lle y claddwyd y Bardd, Llenor a'r Newyddiadurwr enigmatig ac Athrylithgar hwnnw. Ond nid Caradog oedd yr unig un o fawrion yr ardal. Cawsom gip ar leoedd o ddiddordeb a fu yn gysylltiedig ag enwogion y cylch megis Idris Foster, Ifor Williams, J.O. Williams, Leila Megane, R. Lloyd Jones, Jennie Thomas, J.T. Job, R. Williams Parry a R.S. Hughes. Gwelsom harddwch Nant Ffrancon, sialens Tryfan a'r Carneddau a hagrwch y chwareli a'r man lle cyfarfu tad Caradog â damwain angeuol. Gwelsom Bethesda fel y mae gyda'i dafarndai diddorol a'i chapeli nodedig. Gwelsom lawer ar un o ardaloedd pwysicaf yn ein hanes fel cenedl. Cawsom fwynhau bwyd blasus yn "Y Bedol" ym Methel cyn teithio yn ôl i ogoniant Dyffryn Clwyd. Talwyd y diolchiadau gan Gaynor Morgan Rees, Llywydd y Gymdeithas - i J. Elwyn Hughes ein Tywysydd carismatig a dysgedig, i Harri Hughes ein dreifar gofalus a gwybodus ac i Berwyn Roberts ein ysgrifennydd am ei drefniadaeth drwyadl ac effeithiol. Diwrnod i'w gofio gan bawb ohonom.
 |