BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Bigwn
Dafydd Jones MBE i Ddinbych
Hanes Dafydd Jones yn mynd i Lundain i gasglu ei MBE.

Mae hi braidd yn od meddwl am Mick Jagger a'n nhad, Dafydd Jones, yn yr un gwynt! 'Does na ddim gymaint â hynny yn gyffredin rhyngddon nhw, medde chi. Ond mae'n nhad, (fel Mick Jagger) wedi bod (ac yn dal i fod ) yn dipyn o ' rebel' ac wedi bod yn ddraenen yn ystlys nifer o sefydliadau a phwerau 'oddi fry' !

Ar fore gwener, y 12ed o Ragfyr, 'roedd y ddau yn eistedd ganllath oddi wrth ei gilydd ym Mhalas Buckingham' yn derbyn cydnabyddiaeth i'w gwasanathau dros y blynyddoedd Mick Jagger am ei wasanaeth i 'fwisig poblogaidd' a'n nhad am ei wasanaeth 'i lywodraeth leol ac i'r gymuned yn Ninbych'.

I ddarllenwyr Y Bigwn, rwy'n siwr y byddwch yn rhannu balchder fy nhad a ni fel teulu, o weld y cyfeiriad i'r gymuned yn Ninbych yn y rhaglen swyddogol.

Yn ôl y wybodaeth a gawsom gan swyddfa Chris Ruane yr Aelod Seneddol, mi wnaeth 54 o fudiadau ac amrywiol unigolion, ysgrifennu tystlythyr yn awgrymu ei fod yn derbyn yr MBE, y mwyafrif o'r rheiny yn cynrychioli mudiadau lleol yn Ninbych a Dyffryn Clwyd.

Mae gwasanaethu y gymuned yn Ninbych wedi bod yn rhan ganolog o fywyd fy nhad. Mae'r gymuned honno yn un eang iawn iddo fo ac mae o wedi rhannu ei amser a'i egni yn cefnogi pob math o fudiadau yn y dre, i rai sy'n hybu'r iaith Gymraeg, i brosiectau plant a phobl ifanc ac i deuluoedd mewn angen a'r rhai mwya' difreintiedig.

'Rydym fel plant yn cofio cloch y drws ffrynt yn canu yn rheolaidd, a'r stafell ffrynt yn cael ei throi yn 'syrgeri' i waith fy nhad fel cynghorydd y dre. Niwsans ar adegau i ni fel plant oedd isio gwylied y teledu!!

Ar ran y 54 o fudiadau hynny, y derbyniodd fy nhad ei MBE yn Llundain. Dwi'n gwybod y bydd o'n dymuno diolch i r unigolion a'r mudiadau hynny a wnaeth ysgrifennu yn cefnogi'r syniad i gydnabod ei gyfraniad i dre Dinbych.

Rydan ni ein chwech, Glyn, Clwyd, Ann, Mair, Mona a Rhys yn falch iawn ohono fo ac i mam am fod yn gymaint o gefn iddo fo ac i ninnau fel plant ar hyd y blynyddoedd.

Mair Jones 2 Stryd Y Faenol, Caernarfon.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy