BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Bigwn
Dathliadau Nadolig Dinbych
Tachwedd 2004
Ydy mae o wedi cyrraedd eto!

Yr adeg yna o'r flwyddyn pan fydd ein plant yn llusgo ni'r rhieni o flaen y teledu er mwyn dangos hysbysebion am yr anrheg ddiweddara, yna mae'n nhw'n mynd i fanylder mawr o'i liw, llun, maint dibwrpas (hollol ddibwys fel rheol), cyn ein traethu wedyn gyda rhestr faith o'r holl blant (pawb) sydd "efo un yn barod!"; a pha mor hollol ddibwys ydy bywyd heb yr anrheg yma ac os na fydd yr anrheg yma yn eu hosan ar fore Nadolig, na fydd bywyd yn werth ei fyw.

A wyddoch chi beth sy'n fy synnu i bob blwyddyn? Da ni'n ddigon gwirion i wrando arnyn nhw! Wrth hel meddyliau am Nadolig fy mhlentyndod yr hyn sy'n aros yn y cof yw'r profiadau nid y "pethau" a gefais, y profiad cyffrous o fynd i weld fy mhantomeim gyntaf yn Theatr Clwyd gyda phlant yr ysgol Sul; mynd i weld groto Siôn Corn a rhyfeddu at ei farf hir gwyn.

Dotio at oleuadau lliwgar y goeden Nadolig anferth y tu allan i ffatri Pilkingtons. Felly gadewch i mi eich argyhoeddi rieni ddoeth a diwylliedig nad y "pethau" o dan y goeden eleni fydd yn gwneud y Nadolig yn arbennig i'ch plant a'r teulu ond y profiadau y byddwch yn eu rhannu gyda'ch gilydd.

Nos Wener Rhagfyr y 3ydd beth am ddod i flasu awyrgylch yr ŵyl yn Ninbych. Bydd yma noson llawn hwyl Nadoligaidd i bob oed. Cewch dro ar y carwsel, taro'r morthwl a gweld pwy ydy'r cryfa? A thra bod y dewr ohonoch yn mentro sglefrio ar yr ia (synthetig), fe gaiff yr haelionus grwydro o amgylch y neuadd yn prynu addurniadau ar gyfer y tŷ^, neu anrhegion o grefftwaith. Cyfle hefyd i archebu'r pwdin Nadolig, a rhoi'r gorau o gynnyrch lleol ar eich bwrdd eleni.

Methu dod o hyd i'r anrheg arbennig? Beth am lyfr Y Dyn 'i Hun... wedi'i arwyddo gan neb ond y dyn ei hun! Bydd Hywel Gwynfryn yn siop Clwyd yn lansio ei lyfr newydd, felly galwch fewn i gael ei lofnod.

Wedi i ni eich blino'n lân, peidiwch mynd adre i goginio swper, bydd digon o fwyd ar gael i'w brynu, neu beth am baned fach yn Nghaffi Sali Mali, a bydd Smot yno hefyd. Bydd y goleuadau yn ddigon o ryfeddod eto eleni, gyda neb llai na Derek Brockway BBC (y dyn tywydd del) yn dod i'w goleuo i gyfeiliant melodïau'r band arian a chôr o blant ysgol a'r eira'n pluo... ia eira wir rŵan! allwn ni ddim cael dyn tywydd heb eira na fedrwn?(synthetic - yr eira nid y dyn tywydd)

Yna bydd y rhai trefnus yn eich plith fydd wedi archebu tocynnau o flaen llaw yn mynd ymlaen i neuadd y dref, i fwynhau gwledd o gyngerdd gan gymdeithas gorawl Dinbych a'r cyffiniau. Wrth gwrs, bydd yno un gŵr gwadd bwysig arall ... (na nid Hywel Gwynfryn na Derek Brockway) ond Siôn Corn yn ei swyddfa bersonol yn neuadd y dref, yn brysur yn cymryd archebion am yr anrheg ...... hanfodol ... hwnnw!


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy