| Cynhaliwyd agoriad swyddogol swyddfa newydd y cwmni datblygu economaidd Menter a Busnes ar gyfer y gogledd ddwyrain yn ddiweddar yng nghwmni Gweinidog y Cynulliad dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon Alun Pugh AC. Mae Menter a Busnes' yn gwmni nid-am-elw cenedlaethol sydd yn anelu i greu diwylliant mwy entrepreneuraidd yng Nghymru - yn enwedig ymhlith siaradwyr Cymraeg, trwy gynorthwyo i ddatblygu syniadau newydd, dechrau a thyfu busnes, gwella sgiliau, helpu cymunedau a buddsoddi mewn busnes. Yn ystod y tair blynedd diwethaf mae Adran Datblygu Busnes y cwmni wedi cynorthwyo mwy na 3,000 o unigolion yng Nghymru i ddatblygu eu syniadau busnes. Yn yr agoriad dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr y cwmni: "Mae agor ein swyddfa newydd yn garreg filltir pwysig yn natblygiad parhaol y cwmni. Mae Menter a Busnes wedi bod yn weithgar iawn yng ngogledd ddwyrain Cymru ers nifer o flynyddoedd yn cynorthwyo pobl yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam i ddechrau busnesau newydd. "Bydd y swyddfa hon sydd wedi ei lleoli yng nghanol tref Yr Wyddgrug ond yn gwasanaethu ardal eang, yn rhoi ffocws cryf i'n gwaith ar draws y gogledd ddwyrain gan gynnwys bro'r Bigwn, gan helpu i godi ein proffil yn yr ardal a sicrhau ein bod yn fwy hygyrch i'r bobl rydym yn awyddus i'w cynorthwyo." Ychwanegodd Alun Pugh AC: "Mae agor swyddfa newydd Menter a Busnes yn gam pwysig mewn darparu cefnogaeth i bobl busnes lleol a fydd o fudd i'r economi, nid yn unig yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ond drwy Gymru gyfan hefyd. Mae gan yr ardal hon, sy'n gyfarwydd iawn i fi, gyfoeth o dalent a dwi'n hapus iawn i gefnogi'r gwaith y mae Menter a Busnes yn ei wneud, mewn partneriaeth a Llywodraeth Cynulliad Cymru, i hybu'r manteision economaidd o weithio drwy'r iaith Gymraeg." Mae' r swyddfa'n cynnwys ystafelloedd sydd ar gael i'w gosod i fusnesau neu fudiadau lleol am delerau cystadleuol iawn. Am fanylion pellach cysylltwch â Llŷr Gruffydd ar 01352 707830 neu ebostiwch [email protected]
 |