| Neu hen lyfrau, dogfennau, erthyglau papur newydd, tystysgrifau,
rhaglenni sioeau,
eisteddfodau, cyngherddau, cyfarfodydd arbennig, neu unrhyw beth sy'n gysylltiedig â Dinbych?
Os nad oes dim byd ar bapur, efallai fod gennych atgofion personol neu hanesion diddorol. Os felly, mae'r grŵp "Cynllun Archif Dinbych" eisiau clywed gennych. Newydd ei sefydlu gan Gyngor Tref Dinbych mae'r cynllun hwn. Mae yn un elfen allan o chwech o dan Brosiect Adfywio Treftadaeth Dinbych, sydd yn cael ei ariannu gan Gronfa Loteri Treftadaeth. Mae grŵp o wirfoddolwyr, dan arweiniad Sharon Newell, Swyddog Prosiect, yn
cyfarfod yn Llyfrgell y Dref bob p'nawn Llun rhwng 2.00 a 4.00 ac ar fore Sadwrn cyntaf pob mis rhwng 9.30 a 12.00.
Mae croeso i chi fynd ag unrhyw ddeunydd yno. Bydd yn cael ei sganio a'i gadw'n ddiogel ar gyfrifiadur, felly byddwch yn cael cadw'r deunydd gwreiddiol.
Y bwriad yw creu canolfan Archifau Cymunedol Dinbych yn y Llyfrgell er mwyn i'r archif fod ar gael i bawb.
Unwaith i hynny ddigwydd maent yn gobeithio sefydlu gwefan fel bod yr archif ar gael led-led y byd! John Davies
 |