| Ychydig wythnosau yn ôl dim ond glaswellt oedd o flaen Gerddi Glasfryn, uned breswyl Ysgol Plas Brondyffryn. Erbyn hyn mae'r man yn edrych yn gwbl wahanol, diolch i waith caled Tîm Ymarferol Coleg Llaneurgain. Disgyblion ag anghenion arbennig yw aelodau'r tîm, a dros yr wythnosau diwethaf maent wedi gweithio'n galed i drawsnewid y man yn ddosbarth awyr agored.
Ym mis Ionawr digwyddodd Hugh Wynne, arweinydd tîm yn yr ysgol, gyfarfod ag un o gynhyrchwyr y rhaglen 'Clwb Garddio' ar S4C. Ffrwyth y cyfarfod hwnnw yw'r prosiect hwn a chafodd y prosiect ei ffilmio ar gyfer y rhaglen 'Y Clwb Garddio'. Wedi cael sêl bendith aeth Hugh ati i ddarganfod yr adnoddau oedd eu hangen i greu'r ardd, ac yn ffodus iawn llwyddodd i gasglu gwerth £20,000 o nwyddau gan fusnesau lleol.
Dywedodd Hugh ei fod yn hynod o ddiolchgar i'r busnesau am eu haelioni ac am fod yn fwy na pharod i gyfrannu, ac i Coleg Llaneurgain am eu gwaith caled. Mae gan yr ardd batio â phergola, ardal ffurfiol lle bydd llysiau yn cael eu tyfu, dodrefn i'r ardd, Côr y Cewri, bocsys adar a thrychfilod ac ardal ar gyfer blodau gwyllt. Canolbwynt yr ardd yw draig wedi ei gwneud o hen deiars.
Cafodd yr ardd ei hagor yn swyddogol ar Fehefin l6eg. Plannwyd coeden gan Connor Jones, un o'r disgyblion i nodi'r achlysur, ac 'roedd pawb a noddodd y gwaith yn gwylio, ynghyd â chamerau S4C. Cafodd y rhaglen ei darlledu ar Fehefin 29ain.
 |