| Bydd breuddwyd criw o bobl ifanc o Ddinbych yn troi'n realiti o fewn y blynyddoedd nesaf wrth iddynt weithio tuag at ddatblygu canolfan benodedig ar gyfer llath rolio, sgrialu a beicio. Mae'r grwp, sef Denbigh Ramp'n'rails wedi ei sefydlu yn dilyn cyfarfod agored i bawb oedd â diddordeb yn y maes. Roedd dros 150 o bobl ifanc ac oedolion yn bresennol yn y cyfarfod, yn cynnwys Maer y Dre, sef Mrs. Gwyneth Kensler. Dangos cefnogaeth Roeddent i gyd yno i ddangos eu cefnogaeth tuag at brif nod y grwp, sef i ddod o hyd i safle addas a'i ddatblygu i greu canolfan lle y gallai pawb ddod i lath rolio, sgrialu neu feicio a hynny'n saff. Mae'n siwr eich bod wedi gweld nifer o lath rolwyr a sgrialwyr yn trïo datblygu eu sgiliau o amgylch y dre ac mae'r niferoedd wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf. Cytunodd pawb yn y cyfarfod nad oedd y meysydd parcio na'r palmentydd yn addas a'u bod yn beryglus iawn i chwarae arnynt. Daeth y syniad yn wreiddiol gan Gareth Williams, 13eg oed o Ddinbych. Mae Gareth wedi bod yn llath rolio ers peth amser erbyn hyn ac yn awyddus i'r cynllun symud ymlaen. Mae'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi'i gefnogi hyd yn hyn. Hel syniadau Erbyn hyn mae'r grwp wrthi'n cynnig teithiau ymchwil i bawb gael hel syniadau a gweld beth sydd ar gael mewn trefi eraill. Mae'r grwp hefyd yn gweithio'n galed i godi arian at yr achos yma a hybu ymwybyddiaeth. Mae nifer o fusnesau lleol wedi dangos cefnogaeth i'r prosiect yn Ninbych. Dywedodd Helen Moulden, Swyddog Datblygu Cymunedol, Cymdeithas Tai Clwyd, sydd yn ymwneud â'r prosiect, "Rydym yn falch iawn o gefnogi Ramp'n'rails. Mae'n ardderchog gweld pobl ifanc y dre'n arwain y cynllun a fydd yn ased i'r gymuned leol i gyd."
 |