BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Bigwn
Ganed Bobi Owen yn y tŷ sydd tu ol i'r polyn mawr ar y dde.Ydych chi'n cofio?
R.M. (Bobi) Owen sy'n cofio'r dyddiau a fu pan oedd yn tyfu fyny yn Stryd Henllan, Dinbych ...

Mynych ym mrig yr hwyr, a mi yn unig
Daw hiraeth am eich 'nabod chwi bob un;
A oes a'ch deil o hyd mewn cof a chalon,
Hen bethau anghofiedig teulu dyn?

'I remember, I remember, the house where I was born'

Yn fy achos i, celwydd noeth - yr oeddwn yn llawer rhy ifanc i gofio'r achlysur mawr hwnnw yn Rhif 18, Stryd Henllan. Cyn fy mod wedi cyrraedd fy ail ben blwydd, mudasom fel teulu ar draws Pwll y Grawys i Deras Bryn Ffynnon.

Un gwael iawn fûm i erioed am gofio neges, dyddiau pen blwydd a rhif cofrestriad fy nghar, ond, pe bawn i'n cau fy llygaid am ennyd, a gadael i'm dychymyg fy nghario tros rychwantau'r blynyddoedd, medrwn glywed a gwaed a bron teimlo, gyffyrddiadau o'm plentyndod.

Yn hwyr y dydd neithiwr, a'r cenllysg yn curo'n ddidrugaredd ar y ffenestri, eisteddais yn fy nghadair freichia', a fesul ychydig, agorais ychydig o gil y drws ar beth a ddisgrifiai Waldo fel, 'y pethau anghofiedig'. Wedi dechrau hel meddyliau fel hyn, doi'r naill beth a'r llall yn ôl imi yn ddarluniau byw ar sgrin fy ymwybod.

Cofio blas y bwyd
Ydach chi'n cofio gwneud tost o flaen tanllwyth o dân a llosgi'ch bysedd tra'n ceisio cael y lliw yn iawn? Bwyta hwnnw wedyn a haen o ddriping bîff yn goron arno. Fel yr oedd mam yn slafio gyda'i brws a'r zebra polish i 'flacledio'r grat'. Dyna flas oedd ar fwyd ers talwm. Beth gaech chi'n fwy blasus na phastai cwningen a chwpan yn ei chanol yn dal y crwst? 'Doedd y lobsgaws dall (di-gig) a gaem weithiau, ddim mor dderbyniol.

Ambell 'bnawn Sul, braf oedd cael gellyg o dun, a mam yn ein gorfodi i fwyta bara menyn efo nhw - atal y llyngir meddai hi. Os nad oedd ar Mam angen crystiau'r dorth ar gyfer pwdin bara, 'roedd Mrs. Morgan, Haddef (ar waelod Glas Meadows) yn fodlon ffeirio afal mawr coch am fagiad ohonynt fel bwyd i'w hieir.

Ydach chi'n cofio rhedeg i'r tŷ o'r stryd ar ganol gêm o ryw fath a gofyn am frechdan siwgr, brechdan driog neu frechdan saws? Peth cyffredin iawn fyddai rhannu wy rhwng dau ond dyna braf oedd ei fwyta efo brechdan a menyn fferm arni. Bron yn feunyddiol yn yr haf, caem frwas i frecwast a bara llefrith i swper. Yn y gaeaf byddai'r uwd yn ffrwtian ei groeso boreol o'r crochan. Ein harferiad ni oedd ei fwyta efo ychydig o fenyn, llefrith a thaenelliad o siwgr. Pinsiad neu ddau o halen oedd dewis fy nhad.

Weithiau, am fod taid yn adnabod nifer o botsiars Stryd Henllan, byddai ambell ffesant neu 'sgyfarnog yn cyrraedd Rhif 5. Y drefn o ddarparu'r rhain oedd eu hongian yn y gegin nes eu hod yn berwi o gynrhon. Ych â fi! Doedd fawr o sôn bryd hynny am 'cholestrol'. Ystyriwch y bacn cartref - dwy haen denau o gig coch a'r gweddill yn fraster i gyd. Ond am flas. Gwaith digon diflas ac annifyr oedd troi gwaed mochyn newydd ei ladd, ar gyfer pwdin gwaed. Ydach chi'n cofio ei flas? Beth am y bron a'r asen fras?

Tra'n sôn am fwyd, pam tybed oedd taid yn tollti ei de o'i gwpan i'w soser ac yn yfed yn swnllyd o honni?

Nos Sul slawer dydd
Nosweithiau Sul oedd yn ddifyr. Wedi oedfa'r hwyr, byddai pawb o'r teulu, hyd at ambell gyfyrder, yn gwasgu rhywsut i ystafell fyw taid a nain. Eisteddai'r plant, yn ôl eu blaenoriaeth, ar y grisiau, yn glustiau i gyd, tra byddai clecs y dref yn cael eu trafod.

Yn groes i'r disgwyl, ni chlywais i unwaith sôn am gynnwys y bregeth nac am ansawdd y canu ond cai'r sgandalau diweddaraf eu gwyntyllu'n drwyadl. Yn y cyfamser, chwyrlïau'r mwg glas o'r catiau i bob twll a chornel. Hyd y gwn i , bu i bob un o'r smocwyr fyw ymhell i'w pedwar ugeiniau.

Ydach chi'n cofio'r oes ddi-deledu, ddi-gyfrifiadur, yr oes aur pan oedd y llyfr, y papur newydd a'r comig yn llenwi amser hamdden yn y cartref? Fe ddaeth y radio, a'r rhaglen sy'n goroesi yw honno pan oeddem fel teulu yn ceisio gwrando trwy'r atmosfferics ar yr ornest focsio fythgofiadwy rhwng Tomi Ffar a Joe Louis. Mor bwysig oedd y dasg wythnosol o fynd â'r batri i siop Gresley i'w wefru. Mae gennyf atgofion hiraethus o'r Champion, Hotspur, Wizard, Film Fun, Radio Fun a'r Comic Cuts.

Mor bwysig i ni'r bechgyn oedd tynghedau Rockfist Rogan, Sexton Blake, Laurel a Hardy ac amryw eraill o'r naill wythnos i'r llall. Defod bwysig iawn oedd eu ffeirio ar y diwrnod penodedig.

Pwysigrwydd y Papur Newydd
Y News Chronicle oedd ein papur dyddiol ni - mae hwnnw, y Daily Herald a'r Daily Sketch wedi hen ddiflannu. Ydach chi'n cofio'r dewis oedd gennym yn Ninbych - yr Anghydffurfwyr yn tueddu i brynu'r North Wales Times, a'r Eglwyswyr y Free Press, y traddodiad hwn yn bodoli ers pan sefydlwyd y naill bapur gan Thomas Gee a'r llall gan yr Eglwyswr rhonc, Charles Cottom.

Ein papur enwadol ni oedd y Seren ond y mwyaf deniadol i mi oedd y War Cry a'r Young Soldier, a brynwyd gan taid ar ei ymweliad nos Sadwrn â thafarn yr Hand. Tra'n sôn am bapurau newydd, ydach chi'n cofio'r amryw ddefnyddiau a wnaed ohonynt ers talwm? Lliain bwrdd dros dro yn y gegin gefn; spils ar gyfer cetyn taid; sgwariau ar gyfer y tŷ bach yng ngwaelod yr ardd; ac i orchuddio'r llawr pan fyddai mam wedi'i sgleinio efo'r Cardinal coch.

Pan fydde'n 'sgidiau ni'n wlyb, y ffordd orau i'w sychu oedd gwasgu peli bychain o bapur ynddynt. 'Nhad oedd yn gyfrifol am, wadnu'n 'sgidiau, er ein bod weithiau yn gwisgo clocsiau. Jim Davis y Crydd yn Neuadd Banton oedd yn gwneud ac yn trwsio rheini. Pe bai esgid â thwll ynddi, fel cyweiriad dros dro byddai mam yn torri darn o gardbord i ffitio y tu mewn i'r esgid. Yr esgid yn gwasgu?

Cosbi caled
Ydach chi'n cofio'r wialen fedw'n hongian o'r silff ben tân, yn fygythiad beunyddiol am gam fyhafio? Cosbedigaethau eraill oedd gorfod llyncu llwyaid o asaffeta, a'i flas yn aros yn y geg fel baw ci ar esgid; mynd i'r gwely'n gynnar heb na llyfr na chomig yn gysur; colli'n pres poced - ceiniog neu ddwy o'r hen arian - ac o ganlyniad yn colli perfformiad Tom Mix a'r Thunder Riders yn y Scala.

Ydach chi'n cofio'r ddefod ar nosweithiau Sadwrn (rhan o'r paratoad at y Sul) o roi'r plant yn y bath sinc o flaen y tân, a'r ieuengaf, yn groes i'w ewyllys, yn gorfod mynd yn gyntaf. Cyn noswylio, byddai'n rhaid paratoi'r llysiau ar gyfer cinio Sul, glanhau esgidiau gorau, llenwi'r fwced, a gorchwylion tebyg fel bod y Sul yn cael ei barchu.

Ydach chi'n cofio diwrnod golchi ar Ddydd Llun, a mam yn ei ffedog fras, yn goch ei hwyneb, yn stwnsio'r dillad efo'r ddoli deircoes, stêm trwchus yn cymylu'r gegin a'r dwr yn ffrydio i'r llawr; protestiadau gwichlyd y mangl hen ffasiwn a mam yn cadw llygad barcud arnom rhag i'n bysedd busneslyd fynd rhwng y rholeri; y dillad glân naill ai ar y lein yn clecian yn y gwynt, neu, ar ddiwrnod braf, yn sychu'n hamddenol ar y gwrychoedd, a mam eto wrthi'n ofalus yn startsio coleri a spandiau 'nhad erbyn y penwythnos.

Ydach chi'n cofio'r haearn smwddio - teclyn cyfleus i falu cnau - yn poethi o flaen y tân. Hwn, neu fricsen wedi'i chynhesu yn y popty oedd ein potel dwr poeth ar noson rewllyd.

Dim meddyg
Oherwydd y gost, doedd nifer o deuluoedd ddim yn barod i alw ar wasanaeth y meddyg. Mam a nain oedd yn gyfrifol am drin ein problemau iechyd. Defnyddio pwltis bara ar gyfer nifer o anhwylderau'r corff - rhaid oedd dioddef y pwltis poeth ar y croen a'i newid am un arall fel yr oerai.

Ydach chi'n cofio'r defnydd a wneud o asaffeta, wermod lwyd, y lliw glas, papur llwyd a finigr, plastar, celyn, mwstard, gwe pryf cop a modrwy aur? Y driniaeth waethaf gen i oedd gorfod gwisgo hen hosan a honno'n llawn o saim gwyrdd, at wella dolur gwddw neu broncitis.

Atgofion Stryd Henllan
Mae Stryd Henllan yn annwyl iawn i mi. Ydach chi'n cofio'r drysau hanner, yn orffwysfeydd cyfleus i'r gwragedd bwyso arnynt tra'n hel clecs y dydd? Gyda'r nos, yn yr haf, byddai'r gwyr yn eistedd allan ar y step yn smocio'n hamddenol tra'n cadw llygad ar y plant yn chwarae'n ddigon diogel yn y stryd, a dim ond ambell geffyl a throl yn ymyrryd ar y gêm.

Yn achlysurol galwai sipsiwn i werthu pegiau a blodau papur lliwgar - doi â lwc ddrwg i unrhyw wraig wrthodai brynu. Ymwelwyr eraill oedd y gwerthwyr pysgod a'u "Penwig ffres, mae nhw'n iach bob un", y yn ddiasbedain i fyny'r stryd.

Do, mi fuo yna dro ar fyd.
Mae'n bywydau ni'n gwbl wahanol yn yr oes bresennol. Dyna ychydig atgofion am fywyd yn y cartref yn ystod y tridegau cynnar. Fe ddaw yna gyfle arall efallai i gofio fel yr oedd hi yn yr ysgol, yn y siopau, yn y capel ac yn y blaen.

Yn y cyfamser beth wnawn ni'n well na chofio gyda Waldo,


Un funud fach cyn elo'r haul o'r wybren,
Un funud fwyn cyn delo'r hwyr i'w hynt,
I gofio am y pethau anghofiedig,
Ar goll yn awr yn llwch yr amser gynt.

Erthygl gan R. M. (Bobi) Owen


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy