| Aethom ni i Lanberis mewn bws ac i fyny'r Wyddfa ar y trên. Tua deuddeg o'r gloch fe gwrddon ni â Robin Jones o'r Cymro yn yr orsaf drennau. Mi roddodd o docynnau i ni a hefyd bagiau efo'r Cymro, pen ysgrifennu a cylch goriadau efo enw'r Cymro arnynt. Am un o'r gloch roedden ni ar y trên yn dringo i fyny'r mynydd ac roedd o'n brofiad gwych. Ar ben yr Wyddfa roedd y tywydd yn arw iawn. Roedd hi'n bwrw glaw, cymylog ac yn wyntog iawn, heb sôn am niwl trwchus. Cerddodd rhai pobl ddewr i'r copa. Clywsom ni am lawer o hetiau merched yn chwythu i ffwrdd o'r hen gerbydau agored yn yr hen ddyddiau.Yn fuan wedyn chwythodd het Robin i ffwrdd ac roedd pawb yn chwerthin. Ar droed y mynydd mi gawsom ni syrpreis. Daeth côr plant bach o Ysgol Llanberis yno i ganu i ni. Canon nhw ddwy o ganeuon. Roedd y canu yn hyfryd. Wedyn mi aethom ni dros y ffordd i westy Victoria (Buddug) i gael pryd o fwyd. Gwrandawn ni ar ddau ŵr yn diolch i Robin o'r Cymro ac i Mair Spencer y trefnydd yn Ninbych. Am hanner awr wedi pump mi aethon ni yn ôl i Capel Curig a Betws-y-Coed. Mwynhaodd pawb y daith, roedd y cwmni yn dda, y golygfeydd yn fendigedig a llawer o gyfle i ymarfer ein Cymraeg. Felly diolch yn fawr iawn i bawb. Carolyn Deed Popeth Cymraeg
 |