BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Bigwn
TraethCôd y Môr
Mwynhewch draethau a moroedd Cymru - a gofalwch amdanyn nhw drwy ddilyn côd y môr!

Mae hirddydd haf a'r cyfle i'w throi hi am y glannau ar fin cyrraedd, ond gofalwch na fyddwch chi yn mynd i drafferthion - trwy ofyn i Gyngor Cefn Gwlad Cymru am gopi o'r Côd Môr newydd. Bydd dilyn Côd y Môr - sy'n dilyn yr un egwyddorion â'r Rheolau Cefn Gwlad - yn eich helpu i ddiogelu'r amgylchedd morol ac yn sicrhau ei fod yn cael ei warchod er mwyn i chi ac eraill ei fwynhau.

Yn ôl Gillian Bilsborough, Swyddog Amddiffyn Rhywogaethau CCGC "Mae llawer o anifeiliaid ac adar y môr yn methu goddef yr aflonyddwch sy'n gallu codi drwy ddefnyddio badau a chychod eraill ar y môr yn anghyfrifol.

Y cyfan y byddwn yn gofyn i bobl ei wneud yw defnyddio synnwyr cyffredin pan fyddan nhw'n agos at fywyd gwyllt.

Os na wnan nhw, yna mae perygl nid yn unig o darfu ar eu trefn ddyddiol a hyd yn oed rhoi niwed iddyn nhw, ond fe allen nhw fod yn troseddu, achos mae llawer o'r adar, yr anifeiliaid a'r planhigion hyn wedi'u diogelu gan y gyfraith."

Mae Côd y Môr wedi'i gynhyrchu gan CCGC ar y cyd â'r pedwar llu heddlu yng Nghymru. Mae grwp y Llywodraeth, y Bartneriaeth dros Weithredu yn erbyn Troseddau Morol hefyd wedi cymryd rhan. Dywedodd y sarjant Nick O'Brien o Uned Forol Heddlu Dyfed Powys:

"Mae Heddlu Dyfed Powys yn llwyr o blaid cyflwyno Côd y Môr achos mae hwn yn ganllaw hwylus iawn sy'n esbonio'r gyfraith bresennol - sydd ambell waith yn ddigon cymhleth - yn fanwl gywir. Os bydd pobl yn dilyn y rheolau hyn, fyddan nhw ddim yn torri'r gyfraith ar hap.

"Mae cyfreithiau bywyd gwyllt yn gwneud mwy na diogelu bywyd gwyllt, oherwydd maen nhw yno i sicrhau nad yw cefn gwlad, y traethau, adnoddau anhygoel yr arfordir, yr adar a'r anifeiliaid mae pobl am eu mwynhau yn cael eu difetha gan weithredoedd difeddwl neu faleisus criw bach."

Mae egwyddorion allweddol Côd y Môr yn cynnwys:

Peidio a gwaredu tanwydd, olew na sbwriel, yn enwedig pethau plastig ac offer pysgota, yn y môr

Peidio â nofio gydag unrhyw anifeiliaid neu adar môr, na chyffwrdd â nhw na rhoi bwyd iddyn nhw - a hynny er lles eu diogelwch nhw a chi

Os ydych mewn bad a bod anifeiliaid y môr yn dod atoch, cadwch at eich llwybr ac osgoi symud yn afreolaidd neu newid eich cyflymder yn sydyn.

Cadwch o leiaf 100 metr i ffwrdd o forloi, morfilod, dolffiniaid, heulgwn, crwbanod môr ac adar sy'n nythu ac ewch o'r fan ar ôl 15 munud.

Mae Côd y Môr ar gael oddi wrth Uned Ymholiadau Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar 0845 130 6229.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy