| Roedd yna digon i ddiddanu'r plant, gyda llwybr natur a chyfle i gyfarfod â rhywogaethau prin o foch a phob math o anifeiliaid eraill. Roedd croeso i ymewlwyr i ddod ac afalau i greu Seidr Lleweni 2007, ac wrth gwrs i gael blas ar seidr y llynedd yr un pryd. Mae Lleweni wedi croesawu ymwelwyr ers blynyddoedd, gan gynnwys cerddwyr a beicwyr sy'n defnyddio'r llwybrau cyhoeddus lleol a llwybr Clawdd Offa. Mae pob math o gynnyrch lleol ar gael yn Lleweni, o selsig cartref a chig moch Tamworth wedi'i halltu a fegir ar y fferm, i gacennau cartref, bisgedi, siytni, jam a dewis o lysiau a pherlysiau wedi eu tyfu yno hefyd. Creodd y cynnyrch ddiddordeb mawr yng Ngŵyl Fwyd Yr Wyddgrug yn
ddiweddar. Esboniodd Catrin Evans y perchenog, "Roedd gan James Martin a Lesley Waters - y pen-cogyddion enwog dipyn o chwilfrydedd am ein cacennau llysiau, sef cacennau betys, a chacen courgettes, ac mi brynodd James Martin 3 paced o'n selsig! 'Da ni'n edrych ymlaen at weld sut ymateb gawn ni gan y bobl leol yn Sir Ddinbych a thu hwnt!" Gwefan Lleweni
 |