| Llywyddwyd y noson gan Gadeirydd y Clwb, Terry Bryer, a crosawyd y gwestai'n ffurfiol gan yr Hybarch Bernard Thomas, gyda'r cyn Lwywydd, Berwyn Evans, yn talu'r diolchiadau. Cyflwynwyd pedair Gwobr Arbennig am Wasanaeth Hir i Nigel Jones, Tim O'Shea, Charlie Edwards a Tegid Phillips, a cafodd David Haydock, Dion Howatson a Rhun Jones gydnabyddiaeth am gynrychioli Gogledd Cymru am y tro cyntaf. Yn dilyn ymddeoliad Tegid Phillips wedi deng mlynedd fel Prif Hyfforddwr y Clwb, penodwyd Russell Rowlands i lenwi ei esgidiau, gyda Simon Parry yn cytuno i hyfforddi'r Ail Dîm. Bydd tîm o hyfforddwyr yn cyd-weithio gyda Russ a Simon a dymunwn bob llwyddiant iddynt am y tymor nesaf. Cytunodd Emyr Thomas i barhau fel Hyfforddwr yr Ieuenctid. Gwobrau
Fe gyflwynodd Mervyn Davies wobrau i'r canlynol am y tymor 2008-2009.
TîM CYNTAF
Chwaraewr y Flwyddyn Trystan Rowlands
"Chwaraewr y Chwaraewyr" Dan Burke
Chwaraewr mwyaf ymroddedig Paul Roberts AIL DîM
Chwaraewr y Flwyddyn Bryn Rowlands
Chwaraewr mwyaf ymroddedig David Perkins
IEUENCTID
Chwaraewr y Flwyddyn Ken Mallorin
"Chwaraewr y Chwaraewyr" Steffan Morris
Chwaraewr mwyaf ymroddedig Dave Allsup
Cynnydd Mwyaf Josh Neal
Aelodau'r Flwyddyn Bernard a Jennifer Thomas
 |