| Enillodd Gwenfai Griffiths o Abergele, sy'n dysgu'r cwrs Clytwaith a Chwiltio yn y Coleg, ail wobr yn y categori Arosgo Traddodiadol. Mae'r gystadleuaeth yn agored i gwiltwyr o bob cwr o'r Byd a Chymdeithas Ryngwladol y Cwiltwyr sy'n ei chynnal. Teithiodd Gwenfai i Tecsas ar ddechrau mis Tachwedd i fynd i'r seremoni a derbyn ei gwobr, a ddyfarnwyd o blith oddeutu 800 o gwiltiau. Daeth Gwenfai a'r cwilt buddugol yn ôl i Gymru, ond cafodd ei anfon yn syth i Tokyo, Japan, ar gyfer cystadleuaeth i genedlaethol bwysig arall. Unwaith eto, roedd y cwilt yn llwyddiannus ac enillodd y Wobr Arian. Derbyniodd Gwenfai wobr o 100,000 yen. Yn dilyn y llwyddiant yma, bydd y cwilt wedi'i arddangos yn Tokyo ac o amgylch Tokyo hyd fis Ebrill 2006 o leiaf. Meddai Pennaeth y Coleg, Julia Hughes, "Rydym wrth ein boddau gyda llwyddiant Gwenfai a hoffem ei llongyfarch ar ei llwyddiant". Gall unrhyw un sydd eisiau ymuno a chwrs tebyg neu gyrsiau eraill yn y Coleg gael llyfryn am ddim ar gyfer cyrsiau Ionawr 05 gan Staff Coleg Cymunedol Dinbych ar 01745 812 812.
 |