BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Bigwn
ManonDiwedd cyfnod yn y llyfrgell
Hydref 2008
Staff Llyfrgell Dinbych yn ffarwelio â Manon a fu'n Lyfrgellydd Bro Dinbych am 30 mlynedd.

Be? Manon yn ymddeol? Na! Byth! Dyna ymateb yr holl staff pan gyhoeddodd y newyddion i ni dro 'nôl yn un o'n cyfarfodydd staff. Rwan mae'r amswer wedi cyrraedd, rydym oll yn ddigalon, methu credu ei bod yn gadael. Be wnawn ni hebddi? Mae Manon wedi rhoi cymaint o egni ac ymroddiad i'w swydd fel Llyfrgellydd Bro yn Ninbych dros y 30 mlynedd diwethaf, ac yn fwy diweddar Llanelwy.

Rydym i gyd yn gytun ein bod wedi profi oes aur Llyfrgell Dinbych dan ei harweiniad medrus. Medda ar sgiliau rheoli penigamp, yn gadarn ond yn deg, gyda chlust i wrando bob amser. Mae'r ffaith ein bod yn dîm mor hapus yma yn ganlyniad i'w harweinyddiaeth hi. Fel mae nhw'n deud, os de chi isio rhywbeth wedi ei wneud rhowch o i berson prysur - wel ma hyn yn bendant wir yn achos Manon. Dyw hi ddim munud llonydd, yn rhedeg yma ac acw rhwng cyfarfodydd, rydym yn aml 'di blino'n lân dim ond yn ei gwylio!

Hoffem fel staff ddiolch o galon iddi am ei chefnogaeth fel Pennaeth, am gyfnod yn llawn hwyl a ffraethineb, ambell 'cream cake', ond yn bennaf oll am ei chyfeillgarwch.

Rydym yn hynod falch ei bod yn mynd i gael amser i fwynhau'r holl bethau ar ei 'wish list', a threulio mwy o amser gyda'r teulu, yn enwedig ei wyrion Meg a Tom (ac un ar y ffordd!). Pob lwc i Roger hefyd, wrth gwrs, ar geisio ymdopi 24/7 hefo'r cymeriad 'ma sy'n ffrwydrad o egni!

Dymunwn bob hapusrwydd i Manon yn ei hymddeoliad, a hwyl gyda'r 'swing'!


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy