BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Bigwn
Parti deulais Ysgol Twm o'r NantChwarae teg i blant Sir Ddinbych
Erthygl gan olygydd y mis

"Yob parents blamed for class chaos"Dyna'r pennawd y sylwais arno yn un o'r papurau Sul cyn i mi eistedd i ysgrifennu'r golygyddol hwn.

Sôn mae gweddill yr erthygl am y diffyg cefnogaeth y mae ysgolion yn ei gael gan rieni rhai plant a nifer gynyddol yr achosion o rieni yn ymosod yn gorfforol neu'n eiriol ar athrawon a phenaethiaid.

Mae ymddygiad y rhieni hyn yn un ffactor (ymysg nifer fawr o rai eraill) am y diffyg disgyblaeth a geir mewn cymaint o ysgolion bellach. Fe awn i ymhellach a dweud bod rhieni fel hyn i'w beio am lawer o achosion o ddiffyg disgyblaeth y tu allan i'r ysgolion hefyd.

Diffyg parch at bobol ac eiddo
Clywais a darllenais yr wythnos hon am sawl enghraifft o ddiffyg parch at bobol ac eiddo, megis y Clwb Pêl-droed, gan lafnau ifanc, ac rwy'n gwybod am deuluoedd yn nhref Dinbych sy'n dioddef ymddygiad anghymdeithasol gan blant yn rheolaidd.

Beth, tybed, fyddai ymateb rhieni'r plant hyn petaen nhw'n cael eu dal? A fydden nhw, fel ni, wedi eu brawychu gan weithredoedd eu plant? Neu a fydden nhw, efallai, yn malio dim ac yn ceisio eu hesgusodi a'u hamddiffyn?

Gwrthgyferbyniad llwyr i hyn oedd y prynhawn Sadwrn a dreuliais i yn Eisteddfod yr Urdd (Cynradd) Sir Ddinbych. Neuadd Ysgol Glan Clwyd yn orlawn o ddisgyblion brwdfrydig a thalentog, a rhieni a theuluoedd cyfan yno i'w cefnogi a'u hannog ymlaen.

Dim cythraul canu
Braf hefyd oedd gweld y cystadleuwyr yn ymwneud â'i gilydd, heb awgrym o gythraul canu. Unwaith eto roedd safon y cystadlu yn eithriadol o uchel; gobeithio'n wir y bydd y cystadlu brwd rhwng ysgolion yn parhau, gyda phob disgybl ymhob ysgol yn parhau i gael cynnig cyfle i gymryd rhan.

Tra'n gwrando ar y cystadlu fedrwn i ddim peidio cofio am y siom llynedd pan na chafwyd eisteddfodau Sir na Chenedlaethol. Does ond gobeithio bod cwmwl clwy'r traed a genau wedi mynd heibio unwaith ac am byth.

Roedd y talent oedd i'w weld yn perfformio yn fy atgoffa hefyd o'r prinder sylw a roddir i'n cornel ni o Gymru gan y cyfryngau! Ymddengys i mi yn aml bod ambell gornel o'n gwlad yn hawlio mwy o oriau mewn rhaglenni teledu a chyfresi di-ri wedi eu lleoli yn yr un hen ardaloedd.

Fedrwch chi feddwl am unrhyw gyfres deledu wedi ei lleoli yng ngogledd ddwyrain Cymru? Cofiwch, efallai mai arnom ni mae rhan o'r bai. Tybed ydym ni yn y rhan hon o'r Wlad yn gwthio ein hunain ddigon?

Yn ystod fy nghyfnod fel Ysgrifennydd Y Bigwn daeth adroddiadau yn fisol, bron, am grantiau loteri a chyrff eraill wedi eu dyfarnu tuag at bob math o gynlluniau clodwiw.

Dim digon o arian i'r ardal
Ond yr hyn a'm tarodd bron bob tro oedd cyn lleied o'r arian oedd yn dod i Sir Ddinbych (neu'r hen Glwyd). Go brin mai cynllun bwriadol yw hyn i amddifadu'r rhan hon o'r wlad - felly rhaid casglu mai diffyg ceisiadau sy'n gyfrifol.

Da clywed, felly, am gynlluniau uchelgeisiol i ddenu arian sylweddol gan Gyngor y Celfyddydau i ddatblygu Canolfan Gelfyddydau Llanelwy, wedi ei leoli yn Ysgol Glan Clwyd.

Dyma gynllun ddylai roi cyfleusterau modern i gynnal pob math o weithgareddau celfyddydol yn y cylch - ac er nad yw yn gwasanaethu plant y dref. A dyna ni yn ôl at y plant! Rhoi cyfle iddyn nhw wneud rhywbeth amgenach gyda'u horiau hamdden - gyda chefnogaeth rhieni sy'n poeni am yr hyn mae eu plant yn ei wneud!


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy