Mae'r ardal felly yn ferw o gyffro a hwyl, wrth i wynebau mwyaf poblogaidd teledu a radio BBC Cymru ddod draw - o Hywel Gwynfryn a Nia Roberts i Jonsi a Dafydd Du, o Dewi Llwyd a Gwilym Owen i Owain Gwilym a Dylan Wyn, o Huw Llywelyn Davies yng Nghlwb Rygbi Dinbych i Iolo Williams yn Nhrefeirian. Y bwriad yw meithrin cysylltiadau parhaol yn yr ardal, rhoi cyfleoedd i hyfforddi pobol a dangos amrywiaeth eang gwasanaethau BBC Cymru. Bydd hefyd amrywiaeth o raglenni yn cael eu darlledu a'u recordio yn yr ardal, sy'n golygu bod llu o gyfleoedd i fod yn rhan o gynulleidfaoedd mewn gwahanol ddigwyddiadau.
Yn y rhifyn hwn o'r Bigwn fe welwch fanylion pellach am ddigwyddiadau Yma i Chi ac hefyd manylion a chyngor ar sut i fod yn gyflwynwr radio a theledu. Mae'r dref yn ffodus iawn i gael cymaint o dalent yn dod i Ddinbych dros y misoedd nesaf. Bydd y lle yn fwrlwm o ddarlledu a hwyl.
Diolch i bawb sydd wedi gweithio mor galed ar y pwyllgor cyswllt a diolch yn arbennig i BBC Cymru am ddewis dod i ganol Dyffryn Clwyd, i'n tref hynafol ni, i lansio'r arbrawf mentrus a chyffrous hwn.
Mae i fyny i ni rwan, drigolion yr ardal, i sicrhau ein bod yn rhoi ein holl gefnogaeth i'r gweithgareddau amrywiol a thu hwnt o ddiddorol sydd wedi eu trefnu ar ein cyfer. Fel y mae teitl y cynllun yn cyhoeddi'n glir: YMA I CHI
Rhaglenni'r BBC
Dyma ddim ond rhai o'r digwyddiadau cyffrous sydd ar gael. Os oes *, yna rhaid cael tocyn neu gofrestru, trwy ffonio 08703 500 700. Fel arall, dewch yn llu ar y diwrnod!
Gweithdy Sgriptio Pobol y Cwm * yng Nghanolfan laith Clwyd
Hoffech chi roi cynnig ar ysgrifennu ar gyfer y gyfres ddrama Gymraeg fwyaf poblogaidd?
Dydd Gwener, Ebrill 1, 1.30 yh
Pawb a.i Brofiad * yng Nghanolfan Eirianfa
Guto Harri a'i westeion yn trafod pob math o bynciau a phrofiadau.
Dydd Sadwrn, Ebrill 2, 6.30yh
Talent Newydd *yn Ysgol Howells
Mae BBC Cymru yn chwilio am gyflwynwyr newydd Cymraeg ar gyfer teledu a radio.
Dydd SuI, EbriIl 3, 10 yb
Beti a'i Phobol gyda Trebor Edwards * yn Theatr Twm o'r Nant
Brenhines y sioe sgwrs yn cyfweld a'r tenor poblogaidd. Dydd Mercher, EbriIl 6, 7.30yh
Geraint Lloyd yn y Clwb Rygbi
Bydd nifer o aelodau Clwb Bois y Loris yn parcio eu lorïau ac yn dod am sgwrs.
Dydd lau, Ebrill 7, 6.30yh
Diwmod y Defnyddwyr yn y Llyfrgell
Cyngor a gwybodaeth am faterion defnyddwyr gyda rhaglenni fel Chwarae Teg a llawer mwy.
Dydd Gwener, Ebrill 8, 10yb
Annwyl Kate, Annwyl Saunders * yn Theatr Twm o'r Nant
John Ogwen a Maureen Rhys yn darllen detholiad o lythyrau Kate Roberts a Saunders Lewis at ei gilydd.
Dydd Sadwrn, Ebrill 9, 7.30yh .
Pawb a'i Farn * yn y Ganolfan Hamdden
Barn y bobol gyda Dewi Llwyd.
Dydd Gwener, Ebrill 15
Y Talwrn ym Melin Brwcws Dinbych
yn erbyn Tegeingl a Waunfawr yn erbyn Penrhos, gyda Gerallt Lloyd Owen
Dydd LIun, EbriIl 18, 7yh
Cant y Cant * yn y Clwb Rygbi
Huw Llywelyn Davies gyda rhifyn arbennig o'r cwis chwaraeon hwyliog.
Dydd Mawrth, EbriIl19, 7yh
Manylu yn Theatr Twm o'r Nant
Gwilym Owen sy'n cadeirio trafodaeth am ddyfodol ysgolion bach Sir Ddinbych.
Dydd Mercher, Ebrill 20, 7yh
Ocsiwn Addewidion yn Neuadd Bentref Llandyrnog
Ar werth mae noson gyda Hywel Gwynfryn a Nia Roberts sy'n gwneud y gwerthu!
Dydd Gwener, Ebrill 22, 7.30yh.
Talent Newydd * yn Theatr Twm o'r Nant
Mae Radio Cymru yn chwilio am fand y dyfodol. Camwch i'r llwyfan!