| Wel, cafodd pawb a fuodd yng nghapel St Thomas, Dinbych wledd y nos Fawrth arbennig hwnnw, yr 8fed o Chwefror. Er mwyn codi arian tuag at waith Cymorth Cristnogol cawsom noson arbennig a chyfle nid yn unig i wledda ar grempogau, bara brith a sgons ond hefyd i wrando ar Lis Perkins yn sôn am 'Masnach Deg' a'i gwaith fel perchennog siop Cynnyrch Cyfiawn yng Nghonwy. Agorwyd Cynnyrch Cyfiawn, fel siop Masnach Deg gan Lis Perkins yng Nghonwy ar Ddydd Gwyl Dewi 2002. Daw'r eitemau i gyd o wledydd y Trydydd Byd a chant eu marchnata'n deg. Cawsom wybod mwy am y symbol arbennig sy'n gwarantu pris teg i gynhyrchwyr eitemau fel pasta, bananas, ffrwythau sych, siocled, te a choffi. Mae'r cynhyrchwyr hefyd yn elwa o sicrwydd amodau iechyd a diogelwch, ni chant eu cam-drin ac ni chaiff eu hamgylchedd ei Iygru mewn unrhyw ffordd. Mae'r siop yn llawn o'r bwydydd arferol a gaiff eu marchnata'n deg a dewis o grefftwaith a chardiau. Ewch am dro i Gonwy i weld drosoch eich hun heblaw am b'nawn Mercher a dydd SuI. Diolch i bawb a gyfrannodd ac a weithiodd mor galed naill ai drwy drefnu, gyfrannu, coginio neu weini. Cofiwch gadw'r 7fed o Ebrill yn rhydd i ddod i wrando ar un sy'n gweithio ym Mozambique efo un o bartneriaid Cymorth CristnogoI. Mwy am y noson y mis nesaf. Cofiwch am fythefnos Masnach Deg 1af o Fawrth - 13eg. A dyma i chi rysait am dorth de fananas - rhai Masnach Deg wrth gwrs, 225g (8 owns) blawd codi 100g (4 owns) fenyn 150g (5 owns) siwgr mân (Masnach Deg) 450g (pwys) o fananas Masnnach Deg rhai meddal ydi'r gorau! Pinsiad o halen 2 Ŵy 175g (6 owns) ffrwythau sych cymysg (Masnach Deg) .
Popty 180ºC/350ºF/nwy 4. Plicio a stwnshio'r bananas, yna cymysgu'r cynhwysion eraill i gyd efo'r bananas, heblaw am y ffrwythau sych, naill ai mewn prosesydd bwyd neu mewn powlen. Yna ar ôl eu cymysgu'n dda, ychwanegu'r ffrwythau sych. Rhoi'r gymysgedd mewn tun torth 2 bwys, wedi ei iro,a phobi'r cyfan am awr a hanner. Gadewch iddi oeri a setlo ychydig cyn ei thorri, enjoiwch!
 |