Bu yn Ystus Heddwch ac yn Gynghorydd Sir ac yn flaenllaw iawn yn ei amser yng Nghapel Lôn Swan.Fe'i claddwyd ym Mynwent Eglwys y Bylchau ar Fedi'r 23ain 1937. Yr oedd yn 91 mlwydd oed.
Y mae'n sicr iddo fod yn berthynas i mi gan i'r enw Bennet (hefo un a dwy t) fod yn gyffredin iawn yn y teulu. Y mae hyn oherwydd elfen Eidalaidd. Bu Morwr o Genoa mewn llongddrylliad oddi ar arfordir Gogledd Cymru yn gynnar yn y 17eg ganrif, fe'i dygwyd i'r lan a gofalwyd amdano gan deulu o Gymry ac arhosodd yma a phriodi'r ferch! Bu'n rhaid Seisnigeiddio ei enw, bryd hynny, a daeth Giovani Benedicto yn John Bennett a chychwyn y patrwm. Bennet oedd enw fy nhaid a John Bennett oedd enwau cyntaf brawd fy nhad.
Nid y Parch. Bennet Jones oedd yr unig un o'r teulu i fynd i'r Weinidogaeth yng nghylch Dinbych. "Gweinidog" cyntaf Capel y Glyn oedd John Bennett Williams Ty'n Twll Llanynys. Eto, cyn ei ordeinio i w ddarpar ofalaeth gyntaf, teimlodd yr alwad tua'r Eglwys fel person plwyf. Serch hynny, gweinidog Presbyteraidd ydoedd yn y pen draw. Diddorol nodi mai yng Nghapel y Glyn y pregethais i gyntaf, fel pregethwr lleyg, yn 1992.
Yn 1992 y bu farw fy nhad a gafodd ei enw llawn ar ôl perthynas arall. Y Parch. Edward Arfon Jones, ail Weinidog Capel y Fron, chwaer Eglwys y Brwcws lle cefais fy nghodi yn flaenor. Afiechyd oedd problem y bardd - bregethwr hwn ac fe'i gorfodwyd i ymddeol.
Byddai cysylltiad teuluol rhwng y tri gweinidog yma, ond yn ôl at y parch. Bennet Jones ... Yn ôl Beibl o'i eiddo sydd ym meddiant John Bennett Parry, Brynrhydyrarian, yr oedd yn "Y Fferm, Rhuthun" pan yn 19 oed yn 1866, sy'n ei gysylltu hefo ardal genedigol fy nhad. Cefais dipyn o drafferth i ddarganfod "Berain House", tŷ sydd bellach wedi hen gael enw newydd ond sy'n dal i sefyll ar ffordd yr Abaty. Diolch i Mrs. Lillie Owen, Erw Salusbury, oedd yn cofio'r cyfan.
Dyn arbennig mae'n amlwg oedd y Parch. Bennet Jones. Y mae dau beth arbennig o drawiadol am ei daflen angladd :
Y mae llun ohono ar y daflen - rhywbeth fyddai'n anarferol heddiw, heb sôn am 1937.
"Ffrwythant eto yn eu henaint; tirion ac iraidd fyddant : I fynegi mai uniawn yw'r Arglwydd fy nghraig."
Y mae trefn arbennig i'r angladd, hynny yw o ran pwy fyddai'n cerdded gyntaf ac yn y blaen.
Dyma'r drefn : Ei feddyg (Dr Hughes Davies), Gweinidogion, Heddgeidwaid, Yr Elor, Ystysiaid Heddwch, Cynghorwyr Sirol, Byrddau Cyoeddus, Y Teulu, Y Cyhoedd Diddorol sylwi mor bell i lawr y rhestr y deuai'r teulu.
Fodd bynnag, y mae'r "teulu" yn bwysig i mi a braf yw nodi'r "Cysylltiadau Cysegredig" yma.
Dilwyn