Daeth criw da ynghyd i'r Clwg Rygbi nos Wener Hydref 3ydd i lawnsio atodiad arbennig Y Bigwn yn dathlu pen-blwydd 20 oed y papur. Croesawyd pawb yno gan gadeirydd Cymdeithas Y Bigwn, Llifon Jones. Rhoddodd John Idris Jones ychydig o hanes sylfaenu'r papur yn ôl yn 1988 pan ddaeth criw bychan at ei gilydd yn benderfynol fod angen papur bro yn Ninbych. Mae'r ffaith fod Y Bigwn yn parhau i oroesi yn brawf o lwyddiant y fenter. Tros y blynyddoedd bu newid ymysg y golygyddion a'r cyfranwyr ond mae un nodwedd arbennig wedi parhau tros y 200 rhifyn, sef y cartŵn. Manteisiwyd ar y cyfle i anrhegu Huw Vaughan Jones am ei waith diflino yn llunio cartŵn bob mis trwy gyflwyno copi o'r Gwyddoniadur iddo fel arwydd o'n gwerthfawrogiad. Yn dilyn bwffe a baratowyd gan Bobbie o'r Clwb Rygbi, lawnsiwyd yr atodiad yn swyddogol gan John Davies, un o'r golygyddion. Torrwyd cacen a wnaed gan Nerys Morgan gan Gwawr Cordiner a Gwenan Roberts, trysorydd ac ysgrifennydd Y Bigwn. Diolchwyd i Nerys Davies, a fu yn bennaf gyfrifol am drefnu'r noson, a gofynnwyd am awgrymiadau ar gyfer nosweithiau cymdeithasol i'r dyfodol.
 |