Yn ddiweddar chwaraeodd yn erbyn Yr Eidal yn y Belle Vue, Y Rhyl, gan chwarae ar y chwith yng nghanol cae. Cafodd gêm dda er iddo gael anaf yn yr ail hanner. Enillodd Cymru 1-0. Roedd y gêm yn fyw ar Deledu Sky.
"Y gêm fwya' imi chwarae ynddi erioed," medd Rhys.
Dyma fwy o' i hanes mewn ecsclwsif i'r Bigwn yn dilyn caniatad F. A. Cymru.
Beth ydi'r cof cyntaf sy' gen ti o gicio pêl ac o bêl-droed?
Cofio cicio pêl yn yr ardd efo dad a mrawd pan oeddwn yn ifanc iawn. Cofio cael hen ddillad tîm pêl-droed Everton gan fy ewythr o Sir Fôn.
Ti'n cofio dy gêm bêl-droed gynta' yn Ysgol Twm o'r Nant?
Yndw yn dda - yn Ysgol Bro Aled, Llansannan. Gwisgo crys coch newydd Wrecsam a chofio rhwbio bathodyn Wrecsam ar y crys gyda balchder. Ennill 4-0 a sgorio 2 gôl. Braf edrych yn ôl a chofio chwarae efo ffrindiau - mae rhai yn ffrindiau da o hyd! Hefyd clywed llais Mr Elis Jones yn taranu o ochr y cae! Lwcus o gael y cyfle yn 7 oed!
Beth arall wyt ti'n ei gofio am y cyfnod cynnar yna?
Dwi'n ddyledus i Mr Stan Roberts Mini Football am y cyfle i gael chwarae pêl-droed bob bore Sadwrn. Yn 10 oed, cofio sgowt yn dod atai un bore Sadwrn yn gofyn os oedd gen i ddiddordeb i fynd am dreial efo Wrecsam, Cofio sgorio eto fy nghyffyrddiad cyntaf i Wrecsam yn fy ngêm gyntaf yn erbyn Wolves. Cofio mynd i'r Eidal efo tîm pêl-droed Wrecsam i chwarae gemau cyfeillgar yn erbyn Juventus a Torino. Cofio curo Juventus!
Beth am Ysgol Glan Clwyd?
Chwarae i Sir Ddinbych, ac i Ogledd Cymru dan 15 oed.
Ers faint wyt ti'n gysylltiedig â thîm pêl-droed Wrecsam?
Ers dwi'n 11 oed, ac mae gen i gytundeb tan Haf 2007 pan fyddant yn dewis pwy fydd yn arwyddo'n broffesiynol. Ar hyn o bryd dwi'n ymarfer ddwywaith yr wythnos yn y Ganolfan Ragoriaeth yn Wrecsam a dwi'n cael gêm bob bore Sul. Mae'r hyfforddiant yn dda - dwi'n dysgu llawer a fy sgiliau'n cael eu datblygu. Diolch i Huw Griffiths a Brian Care yn benodol am fy helpu i ddatblygu fel chwaraewr.
Ers faint wyt ti'n cynrychioli Cymru?
2 flynedd. Chwarae efo tîm dan 15 Cymru yn erbyn Gogledd Iwerddon ym Melfast yn 2004. Cofio mynd ar y cae a theimlo balchder. Trueni colli cyfle i gael mynd yn ôl i Ogledd Iwerddon y flwyddyn ganlynol gan fy mod yn sâl! Dod yn ôl i garfan dan 16 Cymru eleni i chwarae yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon mewn gêm gyfeillgar ac yna yn erbyn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn y Victory Shield.
Sut ges ti wybod dy fod wedi cael dy ddewis i chwarae dros Gymru yn y Victory Shield eleni?
Cael llythyr drwy'r post yn dweud fy mod wedi cael fy newis. Gwylio'r Victory
Shield y llynedd a breuddwydio am gael chwarae yn y gystadleuaeth. Felly daeth breuddwyd yn reality! Diolch Mr Postman!
Sut oeddet yn teimlo pan ges di dy ddewis i chwarae dros Gymru yn y Belle Vue, Y Rhyl yn ddiweddar a bod ar y teledu'n fyw?
Y gêm fwya' erioed imi chwarae ynddi! Cael teulu a ffrindiau yn gwylio - yn rhoi hyder! Ia, ro'n i'n hyderus a dim yn rhy nerfus!
Sonia dipyn am y paratoadau cyn y gemau rhyngwladol.
Gorfod cadw at ddiet cytbwys wrth fynd i Gaerdydd i baratoi. Hefyd gorfod mesur curiad fy nghalon a gwneud yn siŵr fy mod yn ffit cyn mynd. Cyn y gêm, gwisgo tracwisg Cymru ac aros mewn gwesty. Hefyd mae digon o amser i ymlacio i arbed gwastraffu gormod o
egni.
Pwy oedd dy arwyr pan ddechreuaist di chwarae pêl-droed?
Ryan Giggs - doeddwn i ddim yn cefnogi Man Utd ar y pryd! Roedd Giggs yn gonsuriwr!
Pwy ydy dy arwr di heddiw?
P. Nedved (Juventus). Mae rhai yn deud fod ei steil o chwarae yn debyg i fy steil i. Hefyd, Ronaldinio (Barcelona) oherwydd ei sgiliau anhygoel.
Beth ydi dy uchelgais di?
Buaswn yn hoffi cario mlaen efo mhêl-droed a chwarae'n broffesiynol ond mae'n bwysig imi ganolbwyntio ar fy addysg! Mae gen i ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth a dwi'n gwneud amser i chwarae efo'r band, Labrinth.
Oes gen ti gyngor i blant ifanc sydd a'u bryd ar chwarae pêl-droed i safon uchel?
Mae'n bwysig i blant ifanc gael y cyfle fel y ces i, i chwarae'n ddigon aml.
Sut fuaset ti'n disgrifio dy hun fel pêl-droediwr?
Creu cyfleon i eraill a dod â chwaraewyr eraill i mewn i'r gêm. Mae'r ffaith fy mod yn berson penderfynol wedi bod yn help imi.
Wyt ti wedi cyfarfod John Toshack, Mark Hughes neu Brian Flynn?
Do Brian Flynn. Wedi bod mewn cyfarfod efo Brian Flyn yn trafod digwyddiadau'r tymor nesaf a'r tîm dan 17.
Wyt ti'n bwriadu sefydlu Academi Pê1-droed ym Mhrion?
Ydw. Buaswn yn hoffi bod yn hyfforddwr pêl-droed ar ôl ymddeol a chael Prion Utd yn yr Uwch Gynghrair!