Bu'n canu'r gitâr am sbel fel aelod o'r grŵp Labrinth. Ond yn ôl at ei gariad cyntaf y piano, y daeth Ynyr, wrth recordio ei EP cyntaf, Cilfach (Recordiau Aran) a ryddhawyd ychydig wythnosau 'nôl. Mae'r bachgen ifanc yn llwyddo i swyno cynulleidfaoedd o bob oes gyda'i faledi hypnotig ar y piano. Ffion Clwyd fu'n sgwrsio mwy ag o.
Rwyt ti'n chwalu stereoteip arferol bechgyn ifanc, beth sy'n dy wneud yn wahanol i'r grwpiau roc a phop arferol y mae dy gyfoedion yn eu dilyn?
Mae cymaint o fandiau ifanc o gwmpas sy'n defnyddio gitâr, bas a drymiau. Does dim cymaint o bianyddion cyfoes sy'n cyfansoddi caneuon gyda band. Mewn ffordd dwi'n ceisio codi ymwybyddiaeth o'r offeryn, a'i ymestyn tu hwnt i arddulliau clasurol yn unig. Da ni'n arfer clywed y piano yn gyfeiliant i ganeuon, fel rhyw offeryn ar y cyrion. I mi, y piano yw'r offeryn sydd agosaf at fy nghalon.
Eglura'r broses rwyt ti'n mynd drwyddi wrth greu a chyfansoddi?
Mae cyfansoddi caneuon yn habit i mi! Does dim rhaid i rywun fod yn eistedd y tu ôl i biano er mwyn hel syniadau am gân - fe fyddai'n meddwl am syniadau wrth ddreifio, yn fy ngwely, hyd yn oed ar fy ngwyliau! Dwi wrth fy modd yn sgwennu caneuon, ond mae'r caneuon gorau yn dod pan fo gen i deimladau cryf am rywbeth neu rywun. Mewn ffordd dwi'n trosglwyddo'r teimladau hynny i'r gerddoriaeth.
Beth sy'n dod gyntaf, y geiriau yntau'r alaw?
Gan amlaf, y gerddoriaeth sy'n dod gyntaf. Dwi'n teimlo fod cael alaw dda yn bwysig mewn cân, felly ar ôl i mi greu'r felodi a'r cordiau, dwi'n ceisio ysgrifennu geiriau i ffitio'r alaw. Yn bersonol, dwi'n meddwl fod y gerddoriaeth yn fwy gwerthfawr na'r geiriau, i glust y gwrandawr. Ond mae gan bawb farn wahanol am hynny does!
Yn y byd cerddorol, pwy sy'n dylanwadu arnat?
Wrth wrando ar fy ngherddoriaeth, mae'n debyg fod fy nghaneuon yn efelychu artistiaid fel Elton John, Huw Chiswell a Ryland Teifi.
Beth wyt ti'n ei wneud ar y funud?
Dwi ar hyn o bryd yn fy mlwyddyn olaf yng Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor yn astudio cerddoriaeth. Fel rhan o'm hastudiaethau, bu^m i'n cyfansoddi caneuon i'r grŵp lleisiol ifanc o Ddyffryn Clwyd, Enfys. Mi fydda i ac Enfys yn teithio dipyn yn cynnal nosweithiau ac mae mam (y gantores enwog Leah Owen) a finna yn trio rhoi trefn ar ein nosweithiau, ac mi rydyn ni gyd yn cael pleser mawr o berfformio o flaen cynulleidfa.
Lle fyddet ti'n hoff bod mewn 5 mlynedd?
Yn gwneud bywoliaeth lwyddiannus fel cerddor. Mi fyddwn i'n hoffi gweithio mewn stiwdio recordio, perfformio a gwneud enw i mi'n hunan fel cyfansoddwr brwd.