| Rydym yn cofio'r adeilad fel Kavick's Bazaar ac roedd wedi mynd yn gywilydd i'w weld. Mae'n adeilad rhestredig ac wrth ei adnewyddu llwyddwyd i adfer rhai o'r nodweddion hynafol sy'n perthyn iddo. Mae'r adeilad wedi ei addasu yn swyddfeydd gyda 18 yn gweithio yno. Mae'r cynllun i adnewyddu'r adeilad yn un o 26 prosiect sydd wedi cael cymorth trwy Fenter Treftadaeth Tref Dinbych sydd yn gwella ansawdd adeiladau hynafol yng nghanol y dref. Adnewyddu Kavick's Bazaar yn 23, Stryd Fawr yw'r cynllun mwyaf sydd wedi ei gwblhau hyd yma. Mae'r gwaith a wnaed ar yr adeilad yn enghraifft ardderchog o drwsio ac ailddefnyddio adeilad hanesyddol. Trwy hynny mae wedi gwella delwedd yr ardal ac wedi rhoi hwb i economi'r dref. Gwelwyd hefyd yn ddiweddar y newid syfrdanol sydd wedi digwydd i Westy'r Goron gerllaw, a braf yw gweld yr enw yn y Gymraeg yn amlwg ar yr adeilad ar ei newydd wedd. Roedd mawr angen 'spring clean' ar yr hen adeilad a da gweld fod pobl yn barod i fuddsoddi i wella cyflwr rhai o'n hen adeiladau. Mwy o arian Ddechrau mis Tachwedd cyhoeddwyd fod y Gronfa Treftadaeth Loteri am ryddhau £1.5m arall tuag at drwsio eraill o adeiladau'r dref. Mae'r arian yn ychwanegu at y £1.25m a dderbyniwyd o'r un ffynhonnell ym Mai 2000. Mae'n anarferol i'r Gronfa Treftadaeth Loteri gefnogi'r un cynllun ddwywaith ond deallwn fod y rhai sy'n penderfynu'r pethau hyn mor hapus gyda'r modd y defnyddiwyd eu harian fel eu bod am gyfrannu mwy. Canolbwyntir ar daclo y dirywiad amlwg sydd yn rhai o'n hadeiladau hynafol a'u hadfer i ddefnydd arall, a thrwy hynny greu gwaith. Y bwriad 'rwan yn llunio cynllun gweithredu fydd yn dderbyniol i'r Gronfa Loteri a chael yr arian yn ei le erbyn mis Medi 2004. Bydd yr arian loteri yn denu arian gan bartneriaid eraill ac fe all y cyfanswm sy'n cael ei wario ar ganol y dref, fod cymaint â £9m yn ôl Cyngor Sir Ddinbych. Dywedodd y Cyng. Eryl Williams, Arweinydd y Cyngor Sir, fod yr arian hwn yn cydnabod y gwaith caled a wnaed gan swyddogion y Sir a'r gefnogaeth a gaed gan y gymuned. Mae'r Bigwn yn croesawu'r gwaith da sy'n cael ei wnaed yn y dref dan arweiniad rheolwr Menter Treftadaeth Tref Dinbych, Mr. Nathan Blanchard. Ar ôl blynyddoedd o ddirywiad o ganlyniad i gau Ysbyty'r Meddwl a symud y farchnad anifeiliaid i Rhuthun, mae'n hyfryd medru adrodd am yr adfywiad sydd wedi cychwyn yn y rhan yma o'r dref. Gobeithio y caiff effaith gadarnhaol ar economi'r dref a'r ardal.
 |