Dyma enghreifftiau y gwn i amdanyn nhw am ysgolion Cymraeg yr hen Glwyd:
l. Merch bymtheg oed yn methu deall cwestiwn syml am fwynhau gwyliau.
2. Merch arall yn gwrthod yn llwyr ateb yn Gymraeg wrth weini mewn bwyty.
3. Disgyblion yn sarhau grwp ifanc am ganu un gân Gymraeg mewn sesiwn ysgol
uwchradd.
4. Disgybl wedi'i symud o ysgol 'Gymraeg' eleni oherwydd y bwlio am siarad Cymraeg.
5. Myfyrwyr o ysgol 'Gymraeg' yn siarad Saesneg â'i gilydd ar gwrs coleg cyfrwng Cymraeg.
6. Safon iaith lafar ac ysgrifenedig trwch y myfyrwyr yn dirywio'n enbyd o flwyddyn i flwyddyn.
"Mae'n bryd i rywrai ddeffro"Ychwaneger y dystiolaeth a anfonwyd ataf o bob cwr o Gymru gan rieni ac athrawon sy'n pryderu am eu plant a'r Gymraeg fel ei bod yn bryd i rywrai ddeffro. Gellid dechrau trwy weithredu'r polisi honedig presennol o ddysgu Cymraeg ym mhob ysgol!
Pa mor barod ydi penaethiaid a llywodraethwyr i wneud hynny? Pa mor effeithiol yw'r dysgu? Faint o werth sy'n cael ei roi ar y Gymraeg? Byddai'r polisi hwn yn cyflawni'r hyn y mae llawer yn disgwyl i ysgolion 'Cymraeg' ei wneud. A sut mae disgwyl i ysgolion 'Cymraeg' ddysgu ystod eang o bynciau trwy gyfrwng y Gymraeg i ddisgyblion sydd ddim yn deall yr iaith honno?
Dirywiad yn safon iaith y plant
Pryder mwyaf rhieni Cymraeg yn yr hen Glwyd yw'r dirywiad yn safon iaith eu plant. Digwydd hyn am eu bod nhw'n cael eu boddi gan y di-Gymraeg mewn ysgolion cynradd ac uwchradd 'Cymraeg'. Saesneg mae'r plant yn ei glywed yn feunyddiol, a Saesneg mae nhw'n cael eu gorfodi i siarad yn feunyddiol. Troi Cymry bach yn ddi-Gymraeg y mae'r ysgolion heddiw, nid troi'r di-Gymraeg yn Gymry.
Sut mae gwarchod iaith y Cymry? Mewn amgylchedd lle nad ydyn nhw'n cael eu dilorni am siarad eu mamiaith. Polisi dinistriol yw rhannu'r Cymry rhwng dosbarthiadau lle mae mwyafrif y plant yn ddi-Gymraeg os nad yn wrth-Gymraeg. Nid dyletswydd y plant hyn yw ceisio Cymreigio'r gweddill - sy'n amhosibl, beth bynnag.
Dyletswydd yr ysgol yw datblygu iaith y Cymry, nid eu defnyddio i gyfiawnhau polisi aflwyddiannus o ddenu niferoedd gormodol o gefndiroedd sy'n aml ddim yn gefnogol i'r Gymraeg. Honnodd un prifathro na ddylid pryderu'n ormodol fod y Cymry ifanc yn cael eu llethu dros dro, gan y byddent yn siwr o oroesi'n ieithyddol os oedd cefndir a chymeriad y plant yn ddigon cadarn. Ond nid dyna'r plant sydd dan fygythiad. Y rhai o aelwydydd llai sicr eu Cymraeg, y plant llai hyderus eu natur a'r dysgwyr sy'n cael eu colli mewn môr o Seisnigrwydd gormesol: yr union rai oedd, o bosibl, wedi cael cychwyn da mewn ysgol gynradd cyn cyrraedd y môr mawr a methu gwrthsefyll y llanw.
Beth yw'r pwynt?
Er budd y Gymraeg a'i dysgwyr mae'n bryd ystyried faint o ddysgwyr y gellir eu derbyn i'r ysgolion hyn. Y cwestiwn y dylid ei ofyn ydi 'Beth ydi cymelliad y rhieni dros ddefnyddio'r ysgolion?' Dagrau petha' ydi fod llu mawr o rieini'n anfon eu plant i ysgolion Cymraeg, heb yr un mymryn o awydd, na bwriad, Cymreigio'r plant mewn gwirionedd.
Mae'n rhaid bod yn fwy dewisol wrth dderbyn plant o aelwydydd di-Gymraeg i ysgolion Cymraeg - yn ddewisol o ran niferoedd trwy fod yn ddewisol o ran cymhelliad y rhieni. Y bwgan mwyaf, wrth gwrs, ydi cyllid. Pan fo prifathrawon yn gwybod fod eu cyllideb a swyddi'r staff yn dibynnu ar eu niferoedd, mae'r demtasiwn i agor y pyrth led y pen yn aml yn drech nag unrhyw egwyddor. Byddai'r chwyldro sydd ei angen yn golygu newid y dull o gyllido'r Gymraeg: cyllido canlyniadau'r dysgu, nid y niferoedd sy'n dysgu mewn enw yn unig.
Byddai'n rhoi cyfle i rai prifathrawon, a gorfodaeth ar eraill, i fod yn llawer mwy dewisol yn eu cenhadu. Byddai, hefyd, yn rhoi cyfle i rieni a'u plant sydd o ddifrif am ddysgu'r Gymraeg gael gwneud hynny'n llawer mwy llwyddiannus mewn amgylchedd gadarn a chefnogol. Wrth symud o'r cynradd i'r uwchradd, byddai'r cyfyngu niferoedd yn sicrhau amgylchedd fwy cefnogol i'r rhai fyddai'n dymuno defnyddio'r Gymraeg ar fuarth yr ysgolion hynny - yn Gymry cynhenid a dysgwyr llwyddiannus. Dylid rheoli pa ddisgyblion sy'n cael symud o ysgol gynradd Gymraeg i un uwchradd.
Os nad ydi'r plant wedi dangos unrhyw gynnydd yn eu gallu a'u parodrwydd ieithyddol ar ôl blynyddoedd o addysg Gymraeg, yna teg gofyn beth sy'n gyfrifol am hynny. Ai diffyg awydd y plant eu hunain ynteu diffyg cefnogaeth y rhieni sy'n eu llesteirio? Pa negeseuon bwriadol neu anfwriadol y mae'r rhieni yn eu cyfleu i' w plant? Pam y dylai'r Gymraeg gael ei haberthu ar sail cymhellion tra amheus rhai rhieni?
Rhaid wynebu'r sefyllfa anodd
Mae'n sefyllfa anodd a chymhleth - ond rhaid ei hwynebu. Cyfrifoldeb y Cynulliad yw gwneud hynny, gan ddangos gweledigaeth, awydd a chyllid i fynd I'r afael a thasg wleidyddol beryglus. Hyd yn hyn, cafodd pryderon cannoedd tebyg i mi eu dilorni.
I grynhoi fy safbwynt:
1. Hybu pob disgybl pob ysgol i ddysgu Cymraeg, pa un a ydyn nhw' n dymuno hynny ai peidio.
2. Croesawu pob disgybl sydd wedi dangos awydd i ddysgu Cymraeg i rannu ysgol a Chymry Cymraeg.
3. Rhwystro rhieni heb fymryn o awydd 'Cymreigio' eu plant rhag defnyddio ysgolion "Cymraeg" am resymau elitaidd eu bod yn tybio eu bod yn "well" nag ysgolion eraill yn eu cymunedau.
4. Peidio â gorfodi disgyblion uwchradd i gael eu haddysgu mewn iaith y mae nhw prin yn ei deall, nes eu bod yn mynegi eu rhwystredigaeth trwy ddinistrio addysg ac iaith Cymry yr ysgolion hynny.
5. Sicrhau fod Cymry cynhenid yn clywed ac arfer Cymraeg lafar naturiol. Os na ddigwydd hynny, we might as well speak English now.
Eifion Lloyd Jones