| Bu'r Pwyllgor lleol yn gweithio'n ddygn hefo'r trefniadau ac mae clod yn ddyledus iddynt yn ogystal â sicrhau fod y tywydd ar hyd yr wythnos yn hynod o glen. Yn ychwanegol i'r criw arferol 'roedd nifer sylweddol o ieuenctid o gylch Biebertal yn aros yn Ysgol HoweIl, ac yn sicr un o uchafbwyntiau'r wythnos oedd cyflwyniad amrywiol a llawn hiwmor ganddynt yn yr Ysgol ar y nos Iau. Daeth Colin Roberts a dawnswyr Ysgol Heulfre i'n diddori yn Neuadd y Dref ar y nos Fercher cyn i gôr Meibion y Dref (a John Price) ddisgleirio dan ofal Arwyn Roberts. Yn dilyn swper blasus, cafwyd croeso swyddogol gan y Maer, Y Cynghorydd Raymond Bartley a gan Cadeirydd y PwyIlgor Efeillio Mr Peter Davies, gyda'r Burgemeister Herr Bender yn ymateb. Siom cyson i selogion y Gymdeithas Efeillio yw diffyg diddordeb y wasg leol - mae llawer o bethau disylwedd yn cael sylw ganddynt. Ond, er hyn, bu cefnogaeth dda yn Eirianfa i'r farchnad a drefnwyd gan yr Almaenwyr i ddangos rhai o nodweddion a thalentau eu bro, ac roedd y lluniaeth a gafwyd (am ddim!) ganddynt, gan gynnwys teisennau traddodiadol, yn her i aelodau bob WI a Merched y Wawr lleol!
 |