Pan ymunais i â Chlwb Golff Dinbych cefais fy synnu wrth ddod ar draws cynifer o Gymry Cymraeg oedd yn aelodau yno ac fe fu hyn yn ffordd dda o setlo i mewn yn gyfforddus. Cefais gyfarfod nifer o gyn-ddisgyblion oedd yn ymarfer eu sgiliau taro pêl, ar ôl eu gwelel yn Twm yn taro pêl-droed neu daflu pêl rygbi, hyfryd oedd eu gweld yn awr yn taro pêl golff mor wych a'u clywed yn siarad Cymraeg ar hyd a lled y cwrs.
Heddiw hoffwn dalu teyrnged i un fu mor glen efo fi pan yn Bennaeth a nawr sydd yr un mor glen yn rhoi hyfforddiant golff i mi, a minnau yn rhy hen i ymateb.
Mae p'nawn Dydd lau yn y Clwb yn b'nawn pan y daw Last of The Summer Wine allan am gêm, John Glyn (JG) y capten, Will Ll Griffiths yn Second Mate ac yna Richard Snelson, Eifion Ll Jones a fi.
Mae pawb ohonom yn dilyn JG at y ti cyntaf' a byddaf i yn cael y fraint o ddal ei sigaret pan fydd yn taro'r ergyd gynta. Mae Wil yn taro pêl yn bell, ond am JG, mae pob wiwer yn sgrialu pan fydd hwn yn gafael yn y dreifar!
Un tro bu rhaid i ni ymddiheuro pan darodd JG un fwled a drafaeliodd dros
300 llath a glanio yn ddel wrth draed rhywun oedd ar fin pytio ar dwll 2.
Bu rhaid arafu i lawr ar ôl hyn rhag ofn i ni gael ein diarddel o'r cwrs, ond pwy fuasai yn meiddio bygwth JG, a fynta yn dal dreifar MAWR yn ei law dde?!
Mi yda ni gyd yn trio ein gorau i'w guro, drwy brynu clybiau drudfawr, a pheli sy'n mynd yn bell, and fo sydd ar y blaen o hyd. Mae Richard Snelson hyd yn oed wedi mynd am wersi preifat i'r Ariannin i geisio gwella ei swing, ond ddim John Glyn, dim ond iddo fe gael paced o Filter Tips yn ei boced ac Odliadur yn ei siaced does neb yn yr un cae â fo.
Mae wedi cael llwyddiant yng nghystadleuaeth yr Eisteddfod hefyd ac fe ddaeth yn drydydd yn Eisteddfod Casnewydd tu ôl i Derek Llwyd Morgan ac Alwyn Humphreys, ac mae hon yn gystadleuaeth go iawn, ddim fel y gêm bach da ni yn gael ar b'nawn Iau.
Mi glywais i genod Tai Clwyd yn dweud nad oedd fiw mynd i mewn i swyddfa JG pan oedd yn ymarfer pytio ar y carped short pile, dim ond gwrando tu allan i glywed sŵn y bêl yn taro cefn y mwg ar y llawr a JG yn gweiddi, "IESSSSS!!!" ar dop ei lais.
Os y byddwch yn pasio ar y ffordd i fyny am Henllan, gwnewch yn siwr eich bod yn rhoi eich troed i lawr yn y car, os y daw pêl wedi ei tharo gan John Glyn i'ch cyfeiriad, gobeithio mai mewn Tanc y byddwch chi a ddim mewn Ford Focus.
El y Bêl