| "Mae'n enghraifft wych o faenordy cerrig o'r unfed ganrif ar bymtheg sydd wedi goroesi heb fawr ddim newidiadau. Hefyd dyma lle ysgrifennodd Henry Salesbury (1561 c 1605), meddyg ac ysgolhaig, ei Grammatica Britannica, a gyhoeddwyd yn 1593. Y Grammatica oedd un o'r ymgeisiau cyntaf i lunio gramadeg ffurfiol y Gymraeg." Faint ohonoch sy'n gwybod ble mae'r dyfyniad hwn yn cyfeirio ato, tybed? Tan ychydig ddyddiau'n ôl, doedd gen i ddim clem fy hun, ond ar ôl manteisio ar y cyfle i fynychu un o ddyddiau agored y Landmark Trust yn ddiweddar, rwy'n gwybod erbyn hyn mai cyfeirio at Ddolbelydr y mae. Rwy'n ymwybodol fod rhai o'r darllenwyr wedi treulio oriau maith yn ystod eu plentyndod yn crwydro a chwarae yng nghyffiniau Dolbelydr, ac eraill wedi ymweld â'r safle yn ystod un o'r dyddiau agored y llynedd neu ar achlysuron eraill. Ond i'r rhai ohonoch sy'n gwybod dim am y lle, mae Dolbelydr wedi ei leoli ar lan yr Elwy mewn man delfrydol a thawel rhwng Trefnant a Henllan. Fe adeiladwyd y tŷ gwreiddiol o gwmpas y flwyddyn 1578, gan ddefnyddio cynllun pur arloesol i'r cyfnod, yn enwedig y simneiau tal a'r prif risiau sbeiral. Yn ôl y Landmark Trust, o ble y daw y dyfyniad uchod, "Dirywiodd statws Dolbelydr dros y blynyddoedd a gwnaed gwahanol newidiadau yno. Bu'n wag ers tua 1912". Fe ddaeth yn un o "dai coll" Cymru, gan adfeilio bron yn llwyr, gyda choed yn tyfu drwy'r to. I dorri'r stori'n fyr, fe brynodd yr Ymddiriedolaeth yr adeilad yn 1999, yn dilyn rhodd hael o ewyllys un o'r enw Dorothy Stroud, a cychwynnwyd ar yr orchwyl anferth o adfer yr holl adeilad, ac erbyn Hydref 2002, "daeth craen deugain troedfedd ar y safle i godi'r tri trawst to anferthol yn ôl i'w lle. Defnyddiwyd teils carreg i orchuddio'r to, yn unol â'r gwreiddiol." Erbyn hyn mae Dolbelydr yn bictiwr, ac mae pobl o bob cwr o Ynysoedd Prydain yn dod yno i aros ac i fwynhau harddwch a heddwch y safle. Yn ôl yr Ymddiriedolaeth "Elusen yw'r Landmark Trust sy'n adfer adeiladau hanesyddol a esgeuluswyd ac a fyddai'n cael eu colli fel arall, a sicrheir dyfodol newydd iddynt drwy eu cynnig fel llety gwyliau. Mae ll i 6 o bobol gysgu yn Nolbelydr." Efallai y caiff rhywun mwy gwybodus na finnau y cyfle i sgwennu amdano yr adeg hynny! John Davies
 |