Os buoch chi yn nhref Dinbych yn ddiweddar tua phedwar o'r gloch mae'n eithaf posibl y gwelsoch chi griw o blant neu bobl ifanc Cymraeg eu hiaith o gwmpas y lle, rhai ohonyn nhw wedi dod o gryn bellter. Y tebygrwydd yw eu bod ar eu ffordd i Eirianfa ar gyfer eu gwersi gydag Antur Liwt.Yn ystod y ddwyawr y maent yno cânt gyfle i gael hyfforddiant mewn drama, defnyddio'r llais a symud.
Bob nos Lun mae pobl ifanc o ysgolion uwchradd Glan Clwyd, Brynhyfryd, Maes Garmon, Y Creuddyn, Dyffryn Conwy a'r Berwyn yno. Nos Fawrth mae plant oedran Blwyddyn 6 yno (plant sydd ar eu blwyddyn olaf yn yr ysgolion cynradd), plant Blwyddyn 5 ar nos Fercher a phlant Blwyddyn 3 a 4 ar nos Iau.
Fe ddaw'r plant cynradd o ysgolion Twm o'r Nant, Pen Barras, Y Llys, Prestatyn, Gwenffrwd, Treffynnon, Prion, Rhydgaled, Tremeirchion, Pentrecelyn, Gwyddelwern, Llangwm, Bro Cernyw, Bro Aled, Llansannan, Betws yn Rhos, Henllan a Llannefydd.
Gafael yn nychymyg plant
Mae'n amlwg fod Antur Liwt wedi gafael yn nychymyg llawer o blant a rhieni'r ardal gyda tua 170 ohonynt i gyd, a llawer o'u rhieni'n aros i siopa yn y dref, yn mynychu'r llyfrgell neu'r coleg newydd tra mae'r plant yn y gwersi.
Yn ystod yr wythnosau cyntaf hyn mae'r plant wedi bod yn dod i adnabod ei gilydd a'u tiwtoriaid.
Mae adeiladu perthynas ac ymddiriedaeth yn cymryd amser, wrth gwrs, ond maent hefyd wedi bod yn ymarfer rhai sgiliau sylfaenol cyn symud ymlaen i weithgareddau a pherfformiadau mwy cyhoeddus ac uchelgeisiol. Mae nosweithiau agored wedi cael eu cynnal ar gyfer y rhieni a'u ffrindiau ddechrau Rhagfyr.
Holiadur i weld yr ymateb
Yn ddiweddar gwahoddwyd y plant a'u rhieni i lenwi holiadur (yn gwbl ddi-enw) er mwyn i'r pwyllgor gael gweld beth oedd yr ymateb i waith yr wythnosau cyntaf a'u helpu i drefnu ar gyfer y dyfodol. Dyma rai o'r sylwadau:
"Rwy'n mwynhau cymryd rhan yn y canu, dawnsio ac actio. Rwyf hefyd yn mwynhau cyfarfod plant eraill o'r ardal."
"Rydw i wedi gwneud ffrindiau newydd yn Antur Liwt. Rydw i'n licio dysgu pethau gwahanol a chwarae gemau."
"Yr actio yw'r gorau. Mae'r canu yn iawn ond mae'r dawnsio yn "bril".
"Rydw i'n hoff iawn o ddrama a dawns ond hefyd yn hoffi'r ffaith ein bod yn cael cyfarfod ffrindiau newydd o ysgolion gwahanol."