Yn dilyn llwyddiant Sian yn cael ei phenodi fel Cyfarwyddwr yr Urdd ar gyfer y Gogledd a'r Canolbarth yn ddiweddar, aeth y Golygydd ati i holi Sian am ychydig bach o bopeth! Llongyfarchiadau mawr i ti ar dy swydd newydd, alli di ddechrau trwy ddweud ychydig o hanes dy yrfa a sut wyt ti wedi cyrraedd dy swydd bresennol?
Wel, nes i orffen fy ngradd Cymraeg a Hanes Cymru yn
1996 a penderfynu nad oeddwn cweit yn barod i adael Caerdydd, felly nes i gwrs MA mewn Astudiaethau Gwerin gyda'r Brifysgol ac Amgueddfa Werin Sain Ffagan.
Yn ystod ail hanner y flwyddyn, buais yn gweithio ar draethawd hir oedd yn edrych ar Arferion Troeon Bywyd a Chwaraeon Plant yn ardal Dinbych ac felly roeddwn adref yn Nyffryn Clwyd yn eithaf aml.
Penderfynais chwilio am swydd ran amser tra'n gorffen y traethawd a cefais swydd yng Nghanolfan laith Clwyd (Popeth Cymraeg rwan) fel ysgrifenyddes.
Wedi gorffen y traethawd, cefais swydd hefyd fel ysgrifenyddes i Gwmni Wynn Rogers yn Ninbych ac felly yn rhannu fy amser rhwng Canolfan laith Clwyd, Wynn Rogers ac ambell i noson yn helpu ffrind yn Salon Visage!
Yn 1998 cefais swydd ran amser fel Swyddog cyntaf Sir Ddinbych i Menter laith Dinbych-Conwy. Ar yr un pryd, bum yn dilyn cwrs gyda
Coleg Llandrillo i ddysgu oedolion ac felly yn diwtor rhan amser hefyd i Popeth Cymraeg.
Gyda llwyddiant mewn denu grantiau daeth y swydd gyda Menter laith Dinbych-Conwy yn un llawn amser.
Rhannodd y ddwy fenter yn 2003 a gweithiais i Fenter laith Sir Ddinbych hyd 2005 pan gefais i'r swydd gyda Bwrdd yr laith Gymraeg fel Swyddog Datblygu
Rhanbarth y Gogledd, a dyma ni, yn Ionawr 2010 byddaf yn cychwyn ar fy swydd newydd gyda'r Urdd.
Beth yw dy brif ddiddordebau?
Cael diwrnodau allan gyda Dylan a'r hogiau, mynd ar wyliau, nofio a mynd i'r gym!
Byddaf yn hoffi darllen hefyd pan mae amser yn caniatáu!!
Ble byddet ti'n treulio dy wyliau delfrydol a gyda phwy?
Rydym yn gwario tipyn o amser fel teulu yn Malta ac i fod yn onest, er fy mod yn hoff iawn o Efrog Newydd byddwn yn dweud bod Malta yn wyliau delfrydol i ni fel teulu.
Pan yn yr ysgol, plentyn da neu ddrwg oeddet ti?!!
Da wrth gwrs! !
Pwy sydd wedi cael y dylanwad mwyaf arnat ti?
Dwi'n cofio sgwennu am hyn yn y Gadlas flynyddoedd yn ôl.
Does dim dwywaith bod Gwilym Ceiriog Evans wedi cael dylanwad enfawr arnaf tra roeddwn yn tyfu i fyny yn y Groes, ond byddwn i'n dweud mai mam a dad yw'r dylanwad mwyaf - maent wedi rhoi cychwyn grêt i mi mewn bywyd a dwi'n hynod o ddiolchgar iddynt am bopeth.
Beth yw'r peth gorau am Ddinbych?
Dwi wrth fy modd yn byw yn Ninbych mae'n rhaid i mi gyfaddef.
Mae gennym lawer o deulu yn byw yn y cyffiniau a llawer o ffrindiau yn byw yn agos.
Mae yna lawer o deuluoedd ifanc Cymraeg wedi ymgartrefu yma dros y blynyddoedd a rydym yn lwcus iawn gyda blwyddyn Gethin yn yr ysgol bod cymaint o'r plant yn dod o deuluoedd Cymraeg.
Mae Geth wrth ei fodd yn Twm o'r Nant a rydym hefyd yn hynod o lwcus gyda Bodawen sydd yn Gylch Meithrin ffantastig, a Gruff wrth ei fodd yn mynd yno.
Dwi wrth fy modd hefyd yn gallu gwneud llawer o fy siopa erbyn hyn yn Ninbych, mae'r siopau yn grêt!
Mae popeth mor agos i'n tŷ ni yn Ninbych sydd hefyd yn beth braf - mae Geth wrth ei fodd yn chwarae pêl droed, nofio ac yn mynd i Karate.
Dwi'n cofio mam yn dweud ar brydiau pan oeddwn i'n tyfu fyny bod hi'n teimlo fel tacsi a dwi'n siŵr y byddwn i'n dechrau teimlo yr un peth os y byddwn i'n byw yn bellach o'r Ganolfan Hamdden!
Os ddaw'r diwrnod pan fyddi'n ennill Miliwn, sut faset ti'n gwario'r arian?!
Allai wir ddim dychmygu! Gofyn i mi eto mewn rhyw bum mlynedd gan fy mod yn gobeithio y bydd wedi digwydd erbyn hynny!
Beth wyt ti'n fwynhau fwyaf am y Nadolig?
Cael bod adref a gwario mwy o amser gyda teulu a ffrindiau. Hefyd gweld wynebau'r plant wrth iddynt agor eu anrhegion ar fore Nadolig.
Heb anghofio yr holl fwyd ac ambell lasied o win! ! ! ! !
Fyddi di'n gwneud addewidion yn y flwyddyn newydd, ac wyt ti'n un dda am gadw atynt?
Bydda i ddim fel rheol yn gwneud addewidion mawr onibai am yr un o gadw'n ffit a cholli pwysau ar ôl y Nadolig!
Dwi'n eithaf da am wneud hynny - am gyfnod beth bynnag!
Hoffwn gymryd y cyfle hefyd i longyfarch Dai Bryer sydd wedi ei benodi yn Gyfarwyddwr Rhanbarth y De, a dwi'n edrych ymlaen yn fawr i gael cydweithio a fo.
Diolch Sian, Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda, a phob lwc i ti yn dy swydd newydd! Y Bigwn