Dw i wedi bod adre am fis, a ma hi'n teimlo braidd fel mod i heb fod i ffwrdd, yn enwedig gan mod i nôl yn gweithio yn Wrecsam hefyd! (Diolch i Cheryl am hynna!)Felly mi feddyliais am sgwennu i roi'r pennod ola i chi, ac i wneud i mi fy hun deimlo'n well, yn gwneud rywfaint o hel atgofion da!
Ar fin gadael Awstralia o'n i pan nes i sgwennu ddwetha os dwi'n cofio'n iawn. Ynys Tasmania oedd fy stop ola' yn Awstralia. Ag am stop. Dwi'n hynod falch mod i wedi gwneud ymdrech i fynd dros y môr Tasman i'r ynys, sy'n edrych yn fechan ar y map, and mewn gwirionedd ma hi bron yr un maint â Lloegr! Lle bendigedig, yn hollol wahanol i ran fwya o'r tir mawr. Mae 'na fynyddoedd a choed yn llenwi'r ynys. Wnes i rentu car am fy neng diwrnod yno, a mi roedd yn bleser gyrru ar hyd ffyrdd hollol wag am oriau. Dwi'n gweld mwy o bobl ar y ffordd i Wrecsam bob bore!
Mi fues i o gwmpas yr ynys i gyd, dipyn o 'whistle-stop tour' ond digon i roi blas i mi. Es i am dro i waelod Cradle Mountain, ges i ddiwrnod yn crwydro a gwario ym marchnad Salamanca, oedd yn wych. Ges i ddiwrnod yn Port Arthur, lle cafodd nifer o'r conficts eu gyrru. Roedd yn brofiad diddorol iawn, yn enwedig mynd ar daith ysbrydion gyda'r nos. Welson ni ddim ysbryd diolch i'r drefn! Un o fy nyddiau ola yno, fues i yn Freycinet, un o'r parciau cenedlaethol, ag am dro ar hyd un o'r teithiau mwya bendigedig dwi erioed wedi ei weld. Traeth Cyfeillgar ('Friendliest Beach'), hollol wyllt, a lle bendigedig i fynd am dro am oriau heb weld neb arall.
Wedi treulio 10 diwrnod hyfryd yn Nhasmania, roedd hi'n amser hel pac yn ôl i'r tir mawr i bacio bob dim am y stop ola un ar y ffordd adre, sef De Affrica. Cape Town i fod yn fanwl. Wel, am ffordd i dreulio fy mhythefnos ola. Fedrwn i ddim fod wedi dewis lle gwell. Bwyd, gwin, tywydd, golygfeydd, ffantastic!
Es i fyny Table Mountain; gweld 12 Apostol De Affrica; i 'Cape of Good Hope', pwynt mwya De Orllewinol Affrica. Fues i ar daith o gwmpas gwindal ardal Stellenbosch oedd yn wych! Fues i hefyd ar daith i'r treflannau (townships), lle cafodd y bobl dduon eu gyrru yn ystod cyfnod apartheid. Ma hi'n anhygoel gweld sut mae rhai pobl yn byw - a ninnau yma'n cwyno am ddim. Yna, mi fues i am ddiwrnod i warchodfa natur lle welon ni jiraffs, zebras, springbok, buffalo, a 2 rhino ciwt iawn!
Ma'r crwydro wedi dod i ben am y tro, a dwi yn y lle gorau yn y byd...Adre!
Sian Davies