BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Bigwn
Maer Dinbych, y Cyng. Raymond Bartley a'r Faeres, Mrs Dorothy Bartley a'r Barnwr Michael BakerDawns elusennol y Maer
Ebrill 2007
Daeth dros gant a hanner o bobl Dinbych a'r cylch ynghyd â nifer fawr o brif ddinasyddion trefi Dyffryn Clwydi westy'r Bryn Morfydd nos Wener, 16 Mawrth i fwynhau Dawns Elusennol y Maer yng nghwmni Maer Dinbych, y Cyng. Raymond Bartley a'r Faeres, Mrs. Dorothy Bartley.

Trefnwyd y cwbl gan Glerc y Dref, Mr. Medwyn Jones ac mae'n siwr ei fod wedi cael rhywfaint o help gan ei wraig, Mary!

Diolch yn fawr iawn i'r ddau ohonynt am eu holl waith.

Cafwyd araith gan y Maer a dywedodd ei fod wedi penderfynu rhannu'r £1200 a godwyd trwy gynnal y ddawns rhwng nifer o elusennau lleol sy'n gofalu am yr hen a'r anabl.

Mae Raymond wedi bod yn weithgar iawn dros nifer fawr o flynyddoedd yn y maes yma.

Roedd Dawns y Maer yn digwydd bod ar yr un diwrnod ag ymgyrch Diwrnod y Trwyn Coch a derbyniodd y Maer yr her i wisgo trwyn coch a thrwy hynny cododd £88 ychwanegol at ei hoff elusennau.

Croesawyd prif westai'r noson, Y Barnwr Michael Baker, gan Mr. Medwyn Jones, a chafwyd araith ddiddorol a doniol ganddo am ei brofiadau fel barnwr yn llysoedd Lerpwl.

Talwyd y diolchiadau ar ran y gwesteion gan Mr. Gwyn Dryhurst Dodd a soniodd am ei atgofion o Mr. Baker ac o'r Maer, ond ni ddatgelodd ormod o gyfrinachau!

Dilynwyd yr areithiau gan ddwy neu dair awr o ddawnsio a chymysgu efo ffrindiau mewn awyrgylch hyfryd.

Roedd cystadleuaeth answyddogol am y dawnsiwr mwyaf gwreiddiol ac egnïol a'r barn cyffredinol oedd bod tri yn y dis, sef Mr. Jim Tadgell, Dr. Hywel Watkin a Dr. Craig Kensler gyda Dr. Kensler yn ennill o drwch blewyn!

A'r ddawnswraig fwyaf creadigol? Wel, Gaynor Morgan Rees, wrth gwrs!

Mae tymor Raymond fel Maer Dinbych a Neville, fel Cadeirydd y Cyngor Sir, yn dod i ben cyn hir.

Mae'r ddau wedi cael blwyddyn lwyddiannus dros ben a'r mawr yw ein diolch i'r ddau o Ddinbych, y naill yn brif ddinesydd ei dref enedigol a'r llall yn brif ddinesydd ei sir, am eu gwaith graenus a di-fIino.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy