Annwen R. (Llywydd): Yn dilyn y penderfyniad i adael i gwmni Tesco adeiladu archfarchnad newydd yng ngwaelod tref Dinbych, mae llawer o bobol wedi cwyno yn erbyn y cynllun. Mae ceisio stopio y cwmniau mawr rhag adeiladu yn frwydr enfawr sydd wedi ei cholli cyn dechrau.
Rwyf o blaid datblygu'r ardal yma o'r dref, gydag unrhyw beth a fyddai o fudd i'r dref oherwydd os byddai archfarchnad Kwiks yn dal i fod, byddai'r cwestiwn o effaith archfarchnad arall ar y dref efallai ddim wedi codi. Un peth sydd raid ei ddweud ydi fod angen cystadleuaeth gan fod cyfleusterau'r archfarchnad ar Ffordd y Ffair yn llawer gwell na'r un sydd yng nghanol y dref. Siop i biciad i mewn i nôl rhywbeth os ydych yn digwydd cael lle parcio ar dop y dref ydi honno yn hytrach nag yn siop i wneud eich siopa wythnosol.
Mae llawer o bobol hen yn byw yng ngwaelod y dref a byddai wedi cael archfarchnad yma yn hwyluso eu trefniadau siopa nhw.
Rhaid i mi gyfaddef fy mod ar adegau wedi gwneud fy siopa wythnosol ar-lein er mwyn cael y cyfle i siopa mewn 'archfarchnadoedd' eraill heb orfod mynd o'r tŷ - cyfleus iawn, a dim yn rhoi y 'monopoly' llawn i'r un sydd yma ar hyn o bryd. Mae mwy a mwy yn gwneud hyn yn wythnosol, ac efallai bod hyn yn reswm arall pam fod siopau bach y dref mewn pergyl.
Gwyneth: Does dim amheuaeth, mi fydd yr archfarchnad newydd yn siop ardderchog gyda digon o amrywiaeth a dewis i'r siopwyr. Mi fydd yn hwylus tu hwnt, yn arbennig i deuluoedd ifanc, gyda digon o le i barcio a hynny'n rhad ac am ddim.
Ond mi rydw i'n poeni'n arw am ben y dre. Roedd cau siop Woolworth's yn golled aruthrol. Hi oedd yr unig siop fawr ym mhen y dre - dydw i ddim yn cofio'r dre hebddi. Rydw i'n siwr fod y siopwyr bychain sy'n trio gwneud bywoliaeth yn poeni'n arw hefyd. Wedi'r cyfan y nhw sydd orau am gefnogi'r digwyddiadau lleol a'r papur bro. Mae'n beryg' mai dyfodiad yr archfarchnad newydd fydd yr hoelen olaf yn arch y busnesau sy' mhen y dref ar hyn o bryd.
Buddug: Mae tref Dinbych dan fygythiad a fydd 'na 'run siop fach ar ôl yn y dref.
Roedd yn golled fawr i'r dref pan ddiflannodd y ffermwyr a'r hen farchnad anifeiliad a chodi archfarchnad yn ei lle rai blynyddoedd yn ôl. O gael yr archfarchnad newydd, efallai y bydd honno dan fygythiad.
Myfanwy: Teimlaf fod yr archfarchnadoedd yn mynd yn farus ac yn bachu pob man i werthu pob dim bron. Mae tair Tescos eisoes o fewn taith hanner awr neu lai - yn Rhuthun, Yr Wyddgrug ac Abergele. Mae tair archfarchnad yn Ninbych rŵan a theimlaf mai tlodi a gwacau siopau'r dref fydd canlyniad cael un arall.
Ann: Mae archfarchnadoedd yn rhan annatod o fywydau pob un ohonom. Wrth gwrs, maent wedi newid bywydau pawb ohonom. Ceir dewis anhygoel ganddynt ac mae'n hieuenctid yn cymryd hyn yn hollol ganiataol - mefus a llus drwy'r flwyddyn, llysiau na chlywsom ni amdanynt pan yn blant. Wrth gwrs, mae hyn ar draul siopau bach, ac mae hynny yn biti garw. Credaf fod gwell cynnyrch yn y siopau bach yn aml, ac mae'r rhai sydd wedi addasu eu fford o werthu a chyda dewis gwahanol ac o ansawdd gwell, yn gallu llwyddo.
Mae siopau fferm yn y cylch yma yn ardderchog a dylem eu cefnogi ar bob cyfle. Gennym ni y mae'r dewis o ble i wario'n harian.
Olwen: Gydag agor archfarchnad arall yn Ninbych mi fydd yn hoelen arall yn arch y siopau bach yng nghanol y dre. Fel un a aned ac a faged yma, cofiaf y bwrlwm yr oedd hi gyda'r amrywiaeth o siopau ac nid oedd rhaid symud o'r dre. Roedd popeth ar gael yma.
Nerys: Dwi'n falch bod penderfyniad wedi cael ei wneud o'r diwedd i ganiatau adeiladu canolfan siopau yng ngwaelod tre Dinbych. Dwi'n siopa'n lleol drwy'r flwyddyn, o'r swyddfa bost a'r cigydd yng ngwaelod y dre i'r siop bysgod a'r archfarchnad ym mhen ucha'r dre. Dwi ddim yn meddwl gwnaiff y datblygiad yma ddim mwy o wahaniaeth i'r siopau eraill nag y mae'r hinsawdd economaidd presennol yn ei wneud. Bydd yn beth da os bydd pobl leol yn cael eu cyflogi mewn swyddi newydd, mwy o drigolion y dre a'r cylch yn dod i siopa'n lleol, a'r nifer o ymwelwyr i Ddinbych yn cynyddu.