Daeth y newyddion yn ddiweddar bod y sinema wedi ei phrynu gan ddatblygwr lleol ac y bydd yn cael ei dymchwel cyn bo hir. Yn ôl y sôn, bydd nifer o fflatiau gyda llefydd parcio ar y llawr isa yn cael eu hadeiladu ar y safle. Yn anffodus, barn digon dilornus sydd gan do iau y dre am sinema'r Futura. Cafodd y sinema ei rheoli'n wael yn ystod y blynyddoedd olaf ac ni wariwyd fawr ddim ar yr adeilad ei hun. Does dim ond eisiau edrych ar y lle i sylweddoli y byddai bron unrhyw beth yn well na'r hen le hyll sydd wedi dirywio cymaint dros y blynyddoedd. Trist yw gweld yr hen sinema heddiw ond y tu ôl i'r llanast, mae hanes diddorol sy'n llawn atgofion hapus.
Cyn i'r teledu ddisodli'r sinema draddodiadol fel cyfrwng adloniant poblogaidd, roedd sinemâu bach ar hyd a lled y wlad yn gyrchfannau prysur dros ben ac yn llawn holl gynnwrf a rhamant byd y sgrin arian a doedd sinema Dinbych dim gwahanol. Byddai'r sinema yn lle i ddianc i fyd arall ac i anghofio moelni bywyd y pedwar degau a'r pum degau pan nad oedd llawer o bres gan bobl.
Nid trwy'r ffilmiau'n unig roedd hyn yn bosibl 'chwaith - roedd y sinema ei hun yn foethus a'r holl brofiad mor wahanol i fywyd pob dydd. Os nad oes gan bobl ifainc Dinbych atgofion da o'r sinema, mae atgofion rhai o'n trigolion hyn yn felysach o lawer fel y mae atgofion dau gymydog sy'n byw yn Llys Dyffryn yn tystiolaethu.
Mrs. Gwyneth Morris
Y Scala oedd enw'r sinema yn yr hen ddyddiau ac roedd yn lle braf i dreulio noson hefyd. Byddai dwy raglen bob wythnos a dydd Iau oedd y diwrnod newid. Roedd pob noson yn boblogaidd ond nos Sadwrn oedd y noson fawr a byddai'r lle dan ei sang yn reit aml.
Doedd hi ddim yn costio ond ychydig o hen geiniogau i fynd i weld ffilm. Roeddwn i'n mynd efo ffrindiau ond roeddem yn dewis ein ffilmiau yn lle mynd i bob un! Spencer Tracey oedd fy ffefryn i ac roeddwn yn hoff iawn o sêr fel Jeanette McDonald, Nelson Eddy a Diana Durbin hefyd. Daeth Diana Durbin i fyw yng nghyffiniau Llandudno a bu farw yno yn ystod y naw degau.
Byddai'r rhaglen yn dechrau efo cartŵn neu efo'r newyddion fel arfer - Pathè News - ac wedyn byddai ffilm fach cyn y brif ffilm. Mi welais lawer o ffilmiau dros y blynyddoedd ond y gorau i mi oedd Shores of Tripoli, ffilm o 1942 efo John Wayne, Maureen O'Hara a Randolph Scott.
Dw i'n cofio rhai o staff y Scala, ond maen nhw bron i gyd wedi marw erbyn hyn. Mr. Rees oedd y rheolwr ac wedyn daeth Mr. Oliver Jones. Yn y swyddfa docynnau, roedd Mrs. Gwyneth Thomas a Mrs. Hazel Cox a dw i'n meddwl mai Mr. Bill Cox a Mr. Gwyn Roberts oedd y taflunwyr. Roedd Mr. Roberts yn byw yn Y Bwthyn, Lôn Goch (Grove Road) ac mae ei weddw, Mrs. Glenys Roberts yn byw heddiw yn Hafod-y-Green.
Mr. Glyn Hughes
Roeddwn i'n byw yn Groes am gyfnod pan oeddwn yn hogyn a byddwn yn dod i lawr ar fy meic i'r sinema bob nos Iau. Byddwn yn gadael y beic yn siop "Bob Dodge" yn Stryd Henllan. Mae'n rhaid fy mod i'n ffit yr adeg hynny achos roedd digon o elltydd ar y ffordd yn ôl i'r Groes!
Byddai criw o bobl ifainc lleol yn mynd i'r sinema - pobl o bob oed a dweud y gwir - ond fyddai byth unrhyw fath o drwbl yno. Os cofiaf yn iawn, roedd hi'n costio 2/3 (1 lc) a 2/6(121/2c) i fynd i'r balconi a I/- (5c) neu 9d (3V2c) i eistedd i lawr y grisiau. Ar fore Sadwrn, roedd matinèe i'r plant. Byddwn i'n eistedd reit yn y ffrynt ac yn talu 3d (1g)! Roedd y matinèe yn andros o boblogaidd a byddai'r plant yn ciwio i lawr mor bell â siop Evan Jones ar gornel Heigad.
Roeddwn i'n hoff iawn o ffilmiau Stewart Grainger a ffilmiau du gwyn oedden nhw gan fwyaf yr adeg hynny. Dw i'n cofio Sylvia yn gweithio yn y ciosg - ddaru hi weithio yno am flynyddoedd. Mynd i'r sinema oedd uchafbwynt yr wythnos i mi ac i lawer o bobl eraill.