| Aeth yr £1,200 a godwyd drwy garedigrwydd ffrindiau i ymchwil y galon. Dywed y brodyr fod clefyd y galon yn lladd mwy o bobl ym Mhrydain bob blwyddyn nag y mae cancr.
Rydym i gyd yn euog o ddweud na fydd pethau fel hyn yn digwydd i ni, ond yn anffodus
i Dylan yn 2005,
cafodd wybod bod clefyd y galon arno ac yntau yn ddyn ifanc 32 oed.
Yn ffodus i Dylan - ac i filoedd o rai eraill sy'n dioddef clefyd y galon - mae gwaith ymchwil Sefydliad Prydeinig y Galon (British Heart Foundation) yn golygu bod yr hyn y gall llawfeddygon ei wneud y dyddiau hyn i wella'r cleifion yn anhygoel. Ar Fedi 15fed 2005, cafodd Dylan lawdriniaeth yn Ysbyty Broad Green, Lerpwl, ysbyty mae gennym ni yng Ngogledd Cymru lawer i fod yn
ddiolchgar amdano. Erbyn Medi 16eg, sef y diwrnod canlynol, roedd gartref gyda'r teulu.
Roedd yr angioplasty yn llawdriniaeth rwydd iawn o dan anaesthetig lleol.
Gallodd wylio ei galon ei hun ar y sgrin tra roedd y llaw feddygon yn lledaenu'r arteri! Felly, penderfynodd y brodyr a Rhian redeg ras l0k Manceinion i godi arian er mwyn cynorthwyo'r gwaith arbennig sy'n digwydd heddiw i achub bywydau fel un Dylan.
 |